Rhufeiniaid 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.

2Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth.

3Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi.

4Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith.

5A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu:

6Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.

7Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.

8Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau:

9Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.

10A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda’i bobl ef.

11A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd.

12A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd.

13A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.

14Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd.

15Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw;

16Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân.

17Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw.

18Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred,

19Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist.

20Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall:

21Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I’r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt-hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant.

22Am hynny hefyd y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi.

23Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi;

24Pan elwyf i’r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a’m hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch.

25Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i’r saint.

26Canys rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem.

27Canys rhyngodd bodd iddynt; a’u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.

28Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i’r Hispaen.

29Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist.

30Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw;

31Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint;

32Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac y’m cydlonner gyda chwi.

33A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help