Exodus 24 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr ARGLWYDD, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.

2Ac aed Moses ei hun at yr ARGLWYDD; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.

3A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr ARGLWYDD, a’r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD.

4A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr ARGLWYDD; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel.

5Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r ARGLWYDD.

6A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.

7Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr ARGLWYDD.

8A chymerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.

9Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel.

10A gwelsant DDUW Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder.

11Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant DDUW, a bwytasant ac yfasant.

12A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Tyred i fyny ataf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i’w dysgu hwynt.

13A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd DUW.

14Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy.

15A Moses a aeth i fyny i’r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd.

16A gogoniant yr ARGLWYDD a arhodd ar fynydd Sinai, a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl.

17A’r golwg ar ogoniant yr ARGLWYDD oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel.

18A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help