1A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd.
2Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a’i enw ef oedd Manoa; a’i wraig ef oedd amhlantadwy, heb esgor.
3Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd i’r wraig, ac a ddywedodd wrthi, Wele, yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb esgor: ond ti a feichiogi, ac a esgori ar fab.
4Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan.
5Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen o’r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid.
6Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i’w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr DUW a ddaeth ataf fi; a’i bryd ef oedd fel pryd angel DUW, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw.
7Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen, o’r groth hyd ddydd ei farwolaeth.
8Yna Manoa a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr DUW yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i’r bachgen a enir.
9A DUW a wrandawodd ar lef Manoa: ac angel DUW a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi.
10A’r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i’w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall.
11A Manoa a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig? Dywedodd yntau, Ie, myfi.
12A dywedodd Manoa, Deled yn awr dy eiriau i ben. Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef?
13Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi.
14Na fwytaed o ddim a ddêl allan o’r winwydden, nac yfed win na diod gadarn, ac na fwytaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi.
15A dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, Gad, atolwg, i ni dy atal, tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di.
16Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawn o’th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwna ef i’r ARGLWYDD. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd efe.
17A Manoa a ddywedodd wrth angel yr ARGLWYDD, Beth yw dy enw, fel y’th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben?
18Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Paham yr ymofynni am fy enw, gan ei fod yn rhyfeddol?
19Felly Manoa a gymerth fyn gafr, a bwyd-offrwm, ac a’i hoffrymodd ar y graig i’r ARGLWYDD. A’r angel a wnaeth yn rhyfedd: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych.
20Canys, pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua’r nefoedd, yna angel yr ARGLWYDD a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau.
21(Ond ni chwanegodd angel yr ARGLWYDD ymddangos mwyach i Manoa, nac i’w wraig.) Yna y gwybu Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd efe.
22A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys gwelsom DDUW.
23Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr ARGLWYDD ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd-offrwm o’n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.
24A’r wraig a ymddûg fab, ac a alwodd ei enw ef Samson. A’r bachgen a gynyddodd; a’r ARGLWYDD a’i bendithiodd ef.
25Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddechreuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyll Dan, rhwng Sora ac Estaol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.