1A dangosodd i mi afon o ddwfr bywyd, disglair fel crusial, yn dyfod allan o orsedd-faingc Duw a’r Oen, ynghanol ei llydanfa;
2ac ar yr ochr hon i’r afon; ac ar yr ochr accw, bren y bywyd yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth; a dail y pren er iachad y cenhedloedd.
3A phob rhyw felldith ni fydd yno mwyach: a gorsedd-faingc Duw a’r Oen, ynddi y bydd;
4a’i weision a wasanaethant Ef, ac a welant Ei wyneb; a’i enw fydd yn eu talcennau.
5A nos ni fydd mwyach; a rhaid nid oes iddynt wrth oleuni llusern a goleuni haul, canys yr Arglwydd Dduw a oleua arnynt; a theyrnasant yn oes oesoedd.
6A dywedodd wrthyf, Y geiriau hyn, ffyddlawn a gwir ydynt; a’r Arglwydd, Duw ysprydoedd y prophwydi, a ddanfonodd Ei angel i ddangos i’w weision y pethau y mae rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder.
7Ac wele, dyfod yr wyf ar frys. Gwyn ei fyd yr hwn sy’n cadw geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn.
8Ac myfi, Ioan yw’r hwn sy’n clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan glywais a gweled, syrthiais i lawr i addoli o flaen traed yr angel oedd yn dangos i mi y pethau hyn.
9A dywedodd wrthyf, Gwel na wnelych: cydwas â thi yr wyf, ac â’th frodyr y prophwydi, ac â’r rhai sy’n cadw geiriau y llyfr hwn. Duw addola.
10A dywedodd wrthyf, Na selia eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn; canys yr amser sydd agos.
11Yr hwn sy’n gwneuthur anghyfiawnder, gwnaed anghyfiawnder etto; a’r hwn sydd frwnt, brwnt y’i gwneler etto; a’r hwn sydd gyfiawn, cyfiawnder a wnaed; a’r sanctaidd, sancteiddier etto.
12Wele, dyfod yr wyf ar frys, a’m gwobr sydd gyda Mi, i dalu i bob un fel y mae ei waith.
13Myfi, Yr Alpha ac Yr Omega wyf y cyntaf a’r diweddaf, y dechreu a’r diwedd.
14Gwyn eu byd y rhai sy’n golchi eu gwisgoedd, fel y bo iddynt awdurdod i ddyfod at bren y bywyd, a thrwy’r pyrth ddyfod i mewn i’r ddinas.
15Oddi allan y mae’r cwn, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r godinebwyr, a’r llofruddion, a’r eulunaddolwyr, a phob un y sy’n caru, ac yn gwneuthur, celwydd.
16Myfi, Iesu, a ddanfonais Fy angel i dystiolaethu wrthych y pethau hyn er yr eglwysi. Myfi wyf Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r Seren fore ddisglair.
17Ac Yr Yspryd ac Y Briodas-ferch sy’n dywedyd, Tyred. A’r hwn sy’n clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd a syched arno, deued; a’r hwn sy’n ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhad.
18Tystiolaethu yr wyf Fi i bob un y sy’n clywed geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn. Os rhyw un a rydd atto, rhydd Duw atto ef y plaau ysgrifenedig yn y llyfr hwn;
19ac os rhyw un a dỳn ymaith oddiwrth eiriau llyfr y brophwydoliaeth hon, tỳn Duw ymaith ei ran oddiwrth bren y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, y rhai a ysgrifenwyd yn y llyfr hwn.
20Dywedyd y mae’r hwn sy’n tystiolaethu y pethau hyn, Ië; dyfod yr wyf ar frys. Amen. Tyred, Arglwydd Iesu.
21Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda’r saint. Amen.
diwedd
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.