1Fy mab, cadw fy ngeiriau,
A ’m gorchymynion, trysora hwynt gyda thi;
2Cadw fy ngorchymynion, a bydd fyw,
A ’m haddysg, fel canwyll dy lygad;
3Rhwym hwynt am dy fysedd,
Ysgrifena hwynt ar lech dy galon:
4Dywed wrth Ddoethineb, “Fy chwaer tydi (ydwyt),”
A “Cares” galw di Ddeall,
5Er mwyn dy gadw oddi wrth y wraig nid yr eiddot,
Oddi wrth y ddïeithr a lyfnhâ ei hymadrodd;
6Canys yn ffenestr fy nhŷ,
Trwy fy nellt, yr edrychais allan;
7A gwelais ym mysg y rhai syml,
Sylwais ym mysg yr ieuaingc ar,
Langc diffygiol o feddwl
8Yn myned ar hŷd yr heol ger llaw ei chongl hi,
A ffordd ei thŷ hi a gerddai efe,
9Yn y godywyll ymhrydnawn y dydd,
Ynghanol y nos a ’r duder;
10Ac wele fenyw yn cyfarfod âg ef
Mewn addurniad puttain, ond gwyliadwrus o galon;
11Un drystfawr hi a gwrthnysig,
Yn ei thŷ ni thrig ei thraed,
12Weithiau o flaen y drws, weithiau yn yr heolydd,
A cher llaw pob congl y cynllwyn hi:
13A hi a ymafaelodd ynddo ac a’i cusanodd ef,
Caledodd ei gwyneb a dywedodd wrtho,
14“Ebyrth dïolch (oedd) arnaf fi,
(Ac) heddyw y cywiriais fy adduned;
15Am hynny y daethum allan i gyfarfod â thi,
I chwilio am dy wyneb,—a chefais di;
16A hulingau yr huliais fy ngwely,
Y dillad amryw-liwiog (ŷnt) o lïain yr Aipht;
17Taenellais fy ngorweddfa â myrrh,
Ag aloes ac â chinnamon;
18Tyr’d, meddwwn ar nwyfchwareuon hyd y bore,
Ymhyfrydwn â chariadau,
19Canys nid (yw) ’r gwr gartref,
Efe a aeth i ffordd bell,
20Codaid o arian a gymmerth efe yn ei law,
Ar ddydd y llawn lleuad y daw efe i ’w dŷ.”
21Hi a’i gŵyr-drôdd ef ag amlder ei hymadrodd,
A llyfndra ei gwefusau y ’i cymhellodd ef:
22A elo ar ei hol hi yn fyrbwyll,
Fel ych i ’r lladdfa yr â efe,
Neu fel un mewn cyffion (yn myned at) gospedigaeth anwiredd,
23Hyd oni hollto saeth ei afu ef;
Fel y prysura aderyn i’r fagl,
Ac ni ŵyr mai yn erbyn ei einioes (y mae) hyn.
24Yn awr gan hynny, feibion, gwrandêwch arnaf fi,
Ac ystyriwch eiriau fy ngenau,
25Na chilied dy galon at ei ffyrdd hi,
Na chyfeiliorna ar hŷd ei llwybrau,
26Canys llawer o archolledigion a gwympodd hi,
A lliosog yw ei holl laddedigion hi;
27Ffyrdd annwn (yw) ei thŷ hi,
Yn disgyn i ystafelloedd angau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.