1 Wele Fy ngwas, cynhaliaf ef:
Fy etholedig, ynddo yr ymhyfrydodd Fy enaid;
Rhoddais Fy yspryd arno,
Barn i’r cenhedloedd a ddwg efe allan;
2Ni waedda, ac ni ddyrchafa (lais),
Ac ni phair glywed yn yr heol ei lef;
3Corsen ysig ni ddryllia efe,
A llîn egwan (lamp) ni ddiffydd;
Mewn gwirionedd y dwg efe allan farn.
4Ni phalla ac ni ddryllir ef
Hyd oni osodo ar y ddaear farn,
Ac am ei gyfraith ef y bo’r tiroedd pell yn disgwyl.
5Fel hyn y dywed Y Duw, Iehofah,
Creawdydd y nefoedd a’i Hestynydd,
Lledydd y ddaear a’i chnwd,
Rhoddydd anadl i’r bobl arni
Ac yspryd i’r rhai a rodiant ynddi;
6Myfi Iehofah a’th elwais mewn cyfiawnder,
Ac ymaflaf yn dy law, ac y ’th gadwaf,
A rhoddaf di yn gyfammod y bobl, ac yn oleuni y cenhedloedd:
7I agoryd llygaid y deillion,
Ac i ddwyn allan o garchar y rhai mewn rhwymau,
Ac allan o dŷ ’r geol y rhai a eisteddant mewn tywyllwch.
8Myfi Iehofah, hwn (yw) Fy enw;
A’m gogoniant i arall nis rhoddaf,
Na ’m mawl i ddelwau cerfiedig.
9Y (prophwydoliaethau) o’r blaen, wele, hwy a ddaethant i ben,
A phethau newydd (wele) Myfi yn eu mynegi,
Cyn iddynt dorri allan yr wyf yn eu hadrodd i chwi.
10Cenwch i Iehofah gân newydd,
Ei fawl Ef o eithaf y ddaear,
Y rhai a ddisgynwch ar y môr ac a i llenwwch,
Y tiroedd pell a’u trigolion.
11Dyrchafed y diffaethwch a’i ddinasoedd (eu llef)
Y maes-drefi preswylfa Cedar;
Llawen-ganed preswylwŷr y graig,
O ben y mynyddoedd bloeddied hwy.
12Rhodded hwynt i Iehofah ogoniant,
Ai fawl Ef yn y tiroedd pell myneged hwy.
13 Iehofah, fel gwrol-ddyn, a aiff allan,
Fel gwr rhyfelawg y cyffry Efe eiddigedd;
Efe a rua, Ië, Efe a waedda,
Yn erbyn Ei elynion Efe a ymŵrola.
14Tewais er ys talm; ai am byth y tawaf,
Ac yr ymattaliaf? Fel gwraig yn esgor mi a lefaf,
Dyheuaf a chryf-anadlaf ynghŷd.
15Diffaethaf y mynyddoedd a’r bryniau,
A’u holl wellt a wywaf;
A gwnaf yr afonydd yn lloedd trigfanawl,
A’r llynnoedd a sychaf.
16Gwnaf i’r deillion fyned ar hŷd ffordd nad adnabuant,
Ac ar hŷd lwybrau nad adnabuant Mi a wnaf iddynt dramwy,
Gwnaf dywyllwch o’u blaen hwynt yn oleuni,
A’r ffyrdd ceimion yn uniawn:
Hyn yw’r pethau a’r a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwynt.
17Troir yn eu hol, a gwaradwyddir â gwaradwydd, y rhai a ymddiriedant mewn delw gerfiedig,
Y rhai a ddywedant wrth y ddelw dawdd, “Chwi (yw) ein Duwiau ni.”
18Chwi fyddariaid, gwrandêwch,
A chwi ddeillion, edrychwch i weled!
19 Pwy (sydd) ddall ond Fy ngwais i?
Neu fyddar fel (y rhai) yr anfonaf Fy nghennad (attynt?)
Pwy mor ddall a’u llywiawdwŷr,
A dall fel gwas Iehofah?
20Gwelaist bethau lawer, etto nid ystyri;
Yr wyt â 2chlustiau 1agored, etto ni wrandewi.
21 Iehofah a fu radlawn er mwyn Ei gyfiawnder,
Mawrhâodd Ei fawl, ac a’i gwnaeth yn anrhydeddus.
22Ond y rhai hyn (sydd) bobl a yspeiliwyd ac a anrheithiwyd;
Maglwyd y dewisedig ieuaingc oll,
Ac mewn carchardai y cuddiwyd hwynt;
Aethant yn yspail ac nid (oedd) waredydd,
Yn anrhaith ac nid (oedd) a ddywedai “Dyro yn ol.”
23Pwy yn eich mysg a wrendy hyn,
A ystyr, ac a ufuddhâ o hyn allan?
24Pwy a roddes 2Iacob yn 1anrhaith,
Ac Israel i’r yspeiliwŷr?
Onid Iehofah, yr hwn y pechasant i’w erbyn.
Ac ni fynnent yn Ei ffyrdd Ef rodio,
Ac nid ufuddhâent i’w gyfraith?
25Am hynny y tywalltodd Efe arno angerdd Ei ddigter, a chryfder rhyfel;
(Yr angerdd) a ennynodd fflam oddi amgylch, ond ni wybu yntau,
A llosgodd ef, ond nid ystyriodd yntau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.