1A chwannegodd Iöb gymmeryd i fynu ei ddammeg, a dywedodd,
2O na bawn i fel (yn) y misoedd gynt,
Fel yn y dyddiau yr oedd Duw yn fy nghadw,
3 Pryd y disgleiriai Ei lamp Ef uwch fy mhen,
(Ac) yn Ei oleuni Ef y rhodiwn (trwy) dywyllwch,
4Megis yr oeddwn yn nyddiau fy nyhewydd,
Gyda chynghor Duw uwch ben fy mhabell,
5Pryd etto (yr oedd) yr Hollalluog gyda mi,
Ac o’m hamgylch (yr oedd) fy rhai ieuaingc,
6Pryd yr ymdrochai fy nghamrau mewn hufen,
A’r graig a dywalltai wrth fy ymyl afonydd o olew;
7Pan awn allan at y porth i’r dref, ymguddient,
A’r penllwydion a gyfodent ac a arhosent yn sefyll,
9Pennaethiaid a ymattalient yn (eu) hymadroddion,
A’ (u) llaw a osodent hwy ar eu genau;
10Llais y pendefigion a ymguddiai,
A’u tafod a lynai wrth daflod eu genau;
11Canys y glust a glywai, ac a’m galwai yn wynfydedig,
A’r llygad a welai, ac a dystiolaethai am danaf,
12Am i mi waredu ’r truan a waeddai,
A’r amddifad, a’r (hwn) ni (byddai) gynnorthwywr iddo:
13Bendith yr andwyedig a ddeuai arnaf,
A chalon y weddw a lawenhâwn i;
14Â chyfiawnder yr ymwisgais, a hi a ymwisgodd â minnau,
Megis cwnsallt a meitr (oedd) fy marn i;
15Llygaid oeddwn i’r dall,
A thraed i’r cloffion myfi (oeddwn);
16Tad (oeddwn — ïe) myfi, i’r rhai anghenog,
A dadl (y dyn) nad adwaenwn a holwn i;
17Chwilfriwiwn gi-ddannedd yr anghyfiawn,
Ac allan o’i ddannedd ef y cipiwn yr ysglyfaeth.
18Yna y dywedais “Ynghŷda ’m nyth y trengaf,
Ac fel y Phœnix yr amlhâf fy nyddiau;
19Fy ngwreiddyn yn agored wrth y dyfroedd,
A’r gwlith sy’n achos ar fy mrig;
20Fy ngogoniant yn îr gyda mi,
A’m bwa yn fy llaw sy’n adnewyddu (nerth).”
21 Arnaf y gwrandawent hwy, disgwylient,
Distawent wrth fy nghynghor;
22Ar ol fy lleferydd, ni chwannegent hwy,
Ac arnynt y diferai fy ymadrodd;
23A hwy a ddisgwylient am danaf fel am wlaw,
A’u genau a ledent hwy (fel) am y diweddar-wlaw;
24 Gwenwn arnynt, a hwythau yn anymddiriedus,
A llewyrch fy ngwynebpryd, ni wnaent iddo syrthio;
25Dewiswn eu ffordd ac eisteddwn yn ben,
A thrigwn fel brenhin mewn llu,
Fel y neb sy’n cysuro y rhai galarus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.