I. Corinthiaid 10 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y bu ein tadau oll dan y cwmmwl, ac i’r oll o honynt fyned trwy’r môr,

2ac i’r oll o honynt eu bedyddio i Mosheh yn y cwmmwl ac yn y môr,

3a chan yr oll o honynt yr un bwyd ysprydol a fwyttawyd,

4a chan yr oll o honynt yr un ddiod ysprydol a yfwyd, canys yfent o graig ysprydol a’u canlynai, a’r graig oedd Crist.

5Eithr yn y rhan fwyaf o honynt ni foddlonwyd Duw, canys cwympwyd hwynt yn yr anialwch.

6A’r pethau hyn yn siamplau i ni y’u gwnaed, fel na byddom yn chwenychwyr pethau drwg, fel y bu iddynt hwy hefyd chwenychu.

7Ac na fyddwch eulunaddolwyr, fel rhai o honynt hwy, fel yr ysgrifenwyd, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, a chyfodasant i chwareu.”

8Ac na odinebwn, fel y bu i rai o honynt hwy odinebu, a syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.

9Ac na themtiwn yr Arglwydd, fel y bu i rai o honynt hwy demtio, a chan y seirph y distrywiwyd hwy.

10Ac na rwgnechwch, fel y bu i rai o honynt hwy rwgnach, a distrywiwyd hwynt gan y distrywiwr.

11Ac y pethau hyn ar wedd siamplau y digwyddasant iddynt hwy; ac ysgrifenwyd hwynt er cynghor i ni ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd wedi dyfod.

12Felly, yr hwn a dybio ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.

13Temtasiwn nid ymaflodd ynoch chwi oddieithr un dynol; ond ffyddlawn yw Duw, yr Hwn ni ad eich temtio chwi uwchlaw yr hyn a allwch; eithr gwnaiff ynghyda’r temtasiwn y ddiangfa hefyd, er mwyn gallu o honoch ei ddioddef.

14Gan hyny, fy anwylyd, ffowch oddiwrth eulun-addoliaeth.

15Megis wrth rai synhwyrol yr wyf yn dywedyd: bernwch chwi yr hyn yr wyf yn ei adrodd.

16Phiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist yw? Y bara, yr hwn a dorrwn, onid cymmun corph Crist yw? gan mai un bara, un corph ydym, a ni yn llawer; canys yr oll o honom, o’r un bara y cyfrannogwn.

17Edrychwch ar yr Israel yn ol y cnawd:

18y rhai sy’n bwytta’r ebyrth, onid cyfrannogion o’r allor ydynt? Pa beth, gan hyny, yr wyf yn ei ddywedyd?

19Fod yr hyn a aberthwyd i eulunod yn rhywbeth? neu fod yr eulun yn rhywbeth? eithr, y pethau a abertha’r cenhedloedd, i gythreuliaid y’u haberthant ac nid i Dduw;

20ac nid ewyllysiaf i chwi fyned yn gyfrannogion â’r cythreuliaid. O phiol yr Arglwydd ni ellwch yfed,

21ac o phiol cythreuliaid: o fwrdd yr Arglwydd ni ellwch gyfrannogi, ac o fwrdd cythreuliaid.

22Ai gyrru eiddigedd ar yr Arglwydd yr ydym? Ai cryfach nag Ef ydym?

23Pob peth sydd gyfreithlawn, eithr nid pob peth sy’n llesau; pob peth sydd gyfreithlawn, eithr nid pob peth a adeilada.

24Yr eiddo ei hun na fydded i neb ei geisio, eithr yr eiddo dyn arall.

25Pob peth o’r a werthir yn y gigfa, bwyttewch ef heb ofyn dim er mwyn y gydwybod,

26canys i’r Arglwydd y perthyn y ddaear a’i chyflawnder.

27Os eich gwahodd a wna rhyw un o’r rhai digred, ac ewyllysio o honoch fyned, pob peth o’r a rodder ger eich bron,

28bwyttewch heb ofyn dim er mwyn cydwybod; ond os wrthych y dywaid rhyw un, Hwn, peth a aberthwyd yw, na fwyttewch, er mwyn yr hwn a’i mynegodd, ac er mwyn cydwybod;

29a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr eiddo’r llall; canys paham y mae fy rhyddid i yn cael ei farnu gan gydwybod un arall?

30Os myfi trwy ras a gyfrannogaf, paham y’m ceblir am y peth am yr hwn yr wyf fi yn diolch?

31Pa un bynnag, gan hyny, ai bwytta yr ydych, neu yn yfed, neu yn gwneuthur rhyw beth, pob peth gwnewch er gogoniant Duw.

32Byddwch ddidramgwydd i Iwddewon a Groegiaid ac eglwys Dduw;

33fel yr wyf fi ymhob peth yn rhyngu bodd pawb, heb geisio fy lles fi fy hun, eithr eiddo’r rhan fwyaf, fel yr achuber hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help