II. Corinthiaid 11 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1O na chyd-ddygech â mi mewn ychydig o ffolineb!

2Eithr cyd-ddygwch â mi hefyd; canys eiddigus wyf drosoch ag eiddigedd duwiol, canys dyweddïais chwi i un gŵr, i’ch cyflwyno megis morwyn bur i Grist.

3Ond ofni yr wyf, rhag mewn modd yn y byd, fel y bu i’r sarph dwyllo Efa, yn ei chyfrwysdra, y llygrer eich meddyliau oddiwrth y symlrwydd a’r purdeb sydd tua Christ.

4Canys yn wir, os yw yr hwn sy’n dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom, neu Yspryd arall a dderbyniwch yr hwn ni dderbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, da y cyd-ddygwch ag ef.

5Canys meddyliaf nad wyf mewn dim ar ol i’r apostolion tra-rhagorol!

6Ac os hefyd anghyfarwydd wyf yn fy ymadrodd, etto nid wyf felly mewn gwybodaeth, eithr ymhob peth amlygasom hyn ymhlith pawb, tuag attoch.

7Ai pechod a wneuthum wrth fy ngostwng fy hun fel y byddai i chwi eich derchafu, gan mai yn rhad yr efengylais i chwi Efengyl Dduw?

8Eglwysi eraill a yspeiliais, gan dderbyn cyflog ganddynt er y weinidogaeth i chwi;

9a phan yn bresennol gyda chwi, ac mewn eisiau, ni fu’m faich i neb, canys fy eisiau a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Macedonia; ac ymhob peth y cedwais fy hun heb fod yn drwm arnoch, ac y cadwaf.

10Y mae gwirionedd Crist ynof, na chaiff yr ymffrost hwn ei attal, o’m rhan i, ym mharthau Achaia.

11Paham? Am nad wyf yn eich caru? Duw a ŵyr.

12Ond yr hyn yr wyf yn ei wneud, a wnaf hefyd, fel y torwyf ymaith achlysur y rhai sy’n ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y caffer hwynt fel nyni hefyd;

13canys y cyfryw rai, gau-apostolion ydynt, gweithwyr twyllodrus, yn traws-ffurfio eu hunain yn apostolion Crist.

14Ac nid rhyfedd, canys Satan ei hun sy’n traws-ffurfio ei hun yn angel goleuni;

15nid peth mawr yw, gan hyny, os ei weinidogion ef hefyd a draws-ffurfiant eu hunain megis yn weinidogion cyfiawnder, diwedd y rhai fydd yn ol eu gweithredoedd.

16Trachefn meddaf, na fydded i neb dybied fy mod i yn ynfyd: onite, etto megis ynfyd derbyniwch fi, fel y bo i minnau hefyd ymffrostio rhyw ychydig.

17Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid yn ol yr Arglwydd yr wyf yn ei ddywedyd, eithr megis mewn ynfydrwydd, yn yr hyder hwn o ymffrostio.

18Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, myfi hefyd a ymffrostiaf;

19canys ag hyfrydwch yr ydych yn cyd-ddwyn â’r ynfydion, gan fod eich hunain yn ddoethion!

20Canys cyd-ddwyn ag ef yr ydych, os rhyw un a’ch caethiwa chwi, os rhyw un a’ch llwyr-fwytta, os rhyw un a’ch cymmer, os rhyw un a ymdderchafa, os ar eich gwyneb y bydd i ryw un eich tarawo.

21Yn ol ammharch yr wyf yn dywedyd, fel pe baem ni yn weiniaid; ac ym mha beth bynnag y mae neb yn eofn (mewn ynfydrwydd yr wyf yn dywedyd), eofn ydwyf finnau hefyd.

22Hebreaid ydynt! yr wyf finnau hefyd. Israeliaid ydynt! yr wyf finnau hefyd. Had Abraham ydynt! yr wyf finnau hefyd.

23Gweinidogion Crist ydynt! (dan ynfydu yr wyf yn dywedyd,) mwy wyf fi: mewn llafur, mwy dros ben; mewn carcharau, mwy dros ben; mewn gwialennodiau, allan o fesur; mewn marwolaethau yn fynych;

24gan yr Iwddewon, bum waith, deugain gwialennod namyn un a dderbyniais;

25tair gwaith y’m curwyd â gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; tair gwaith y torrodd llong arnaf;

26noswaith a diwrnod y bu’m yn y dyfn-for; mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon afonydd; ym mheryglon lladron; mewn peryglon gan fy nghenedl; mewn peryglon gan genhedloedd; mewn peryglon yn y ddinas; mewn peryglon yn yr anialwch;

27mewn peryglon ar y môr; mewn peryglon ym mhlith brodyr gau; mewn llafur a lludded; mewn anhuneddau yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni.

28Heblaw y pethau oddi allan, y mae’r pwys sydd arnaf beunydd, y pryder am yr holl eglwysi.

29Pwy sydd wan, ac heb i mi fod yn wan?

30Pwy a dramgwyddir, nad wyf fi yn llosgi? Os ymffrostio sydd rhaid, am fatterion fy ngwendid yr ymffrostiaf.

31Duw a Thad ein Harglwydd Iesu a ŵyr (yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd) nad wyf yn celwyddu.

32Yn Damascus, y llywydd dan Aretas y brenhin a wyliodd ddinas y Damasciaid er mwyn fy nal;

33a thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd i lawr ar hyd y mur, a dïengais o’i ddwylaw ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help