1I’r blaengeiniad. Eiddo Dafydd, Psalm. Cân.
2Cwyd Duw, ymwasgar Ei elynion,
Ffŷ Ei gaseion rhag Ei wyneb Ef;
3Fel y tarfir mŵg, y tarfi (hwynt;)
Fel y tawdd cwyr o flaen tân,
Y difethir yr annuwiolion o flaen Duw;
4Ond y cyfiawn rai a lawenychant, a lawen-floeddiant o flaen Duw,
Ac a lammant o lawenydd.
5Cenwch i Dduw, tarewch y tannau i’w enw,
Sernwch (ffordd) i’r Hwn sy’n marchogaeth trwy ’r anialoedd!
Iah (yw) Ei enw,—a llawen-floeddiwch o’i flaen Ef,
6Tad yr amddifaid, a Gwneuthurwr barn i’r gweddwon,
Duw yn Ei breswylfa sanctaidd;
7Duw yn dychwelyd yr unig rai i dŷ,
Yn dwyn allan garcharorion mewn llwyddiant:
Yn unig y rhai cyndyn a breswyliant y crasdir.
8O Dduw, wrth fyned o Honot o flaen Dy bobl,
Wrth gerdded o Honot trwy’r anialwch, Selah.
9Y ddaear a gynhyrfwyd,
A’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw,
Y Sinai hwn, o flaen Duw, Duw Israel;
10 Gwlaw helaethlawn a ddihidlaist, O Dduw,
Dy etifeddiaeth, (yr hon) a flinodd, Tydi a’i cryfhêaist,
11Dy gatrodau a drigasant yno,
Darperaist, yn Dy ddaioni, i’r anghenog, O Dduw.
12Yr Arglwydd a roes y gair,
Y cyhoeddoresau (oeddynt) lu “Brenhinoedd byddinog sy’n fföi, sy’n fföi,
A’r hon a arosai yn y tŷ, sy’n rhannu yspail:
14Pan orweddasoch ym mysg y corlannau,
(Yr oeddych fel) esgyll colommen wedi eu gwisgo âg arian,
A’i hadennydd â melynder aur.
15Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno,
Cyn wyned yr aeth hi â’r eira yn Tsalmon.”
16Mynydd goruchel (yw) mynydd Bashan,
Mynydd llawn corynau (yw) mynydd Bashan.
17Pa ham y craff-edrychwch, O fynyddoedd llawn corynau,
Ar y mynydd y mae’n hyfryd gan Dduw drigo ynddo?
Ië, Iehofah a’i preswylia byth:
18Cerbydau Duw (ŷnt) ugain mil, miloedd mynychawl,
Yr Arglwydd (sydd) ynddynt, Sinai (sydd) yn y cyssegr!
19 i breswylio, O Iah, Dduw.
20Bendigedig (fo)’r Arglwydd ddydd (ar ol) dydd!
Gesyd (dyn) lwyth arnom,—Duw (yw) ein gwaredigaeth, Selah.
21Duw (sydd) i ni yn Dduw gwaredigawl,
A chan Iehofah, yr Arglwydd, (y mae) ffyrdd allan rhag angau.
22Ië; Duw a friwia ben Ei elynion,
Coppa gwallt yr hwn a ymrodio yn ei gamweddau:
23Dywedodd Duw, “O Bashan y’(th) ddychwelaf,
Dychwelaf (di) o ddyfnderoedd y môr,
24Fel yr ysgydwych dy droed mewn gwaed,
(Yr yfo) tafod dy gŵn o’th elynion,—(sef)o’r unrhyw.”
25Gwelodd (dynion) Dy fynedfa, O Dduw,
Mynedfa fy Nuw, fy Mrenhin, yn y cyssegr,
26Yn gyntaf yr aeth cantorion, gwedi’n tarawyr y tannau,
Ymysg llangcesau yn canu tympanau,
27—“Mewn cynnulleidfaoedd bendithiwch Dduw,
Yr Arglwydd, (O chwi) o ffynnon Israel.”—
28 bach, yn eu llywyddu,
Tywysogion Iwdah, eu byddin,
Tywysogion Zabwlon, Tywysogion Nephtali.
29Dyro orchymyn, O Dduw, i’th gadernid,
Cadarnhâ yr hyn a wnaethost i ni!
30Er mwyn dy deml yn Ierwshalem,
Attat Ti dyged brenhinoedd anrheg!
31Cystwya anifail y gorsen,
—Cynnulleidfa ’r cedyrn (deirw), ynghyda ’r lloi o bobl—
(Yr hwn) a ymorchreinia â darnau o arian!
Gwasgar y bobloedd a ymhyfrydont mewn rhyfeloedd!
32Deued pendefigion o’r Aipht,
Bydded i Ethiopia brysuro â’i dwylaw at Dduw!
33Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw,
Tarewch y tannau i’r Arglwydd, Selah.
34—I’r Hwn a ferchyg ar nef y nefoedd cyssefinawg;
Wele, rhydd Efe Ei lais, llais nerthol; —
35Rhoddwch fawl i Dduw,
Tros Israel (y teyrnasa) Ei oruchelder Ef,
A’i nerth yn yr wybrennau.
36Ofnadwy (wyt), O Dduw, o’th sanctaidd leoedd;
Duw Israel — Efe (sy)’n rhoddi nerth a chadernid i’r bobl:
Bendigedig (fo) Duw!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.