1I’r blaengeiniad tros yr offer tannau. Awdl addysgiadol o eiddo Dafydd.
2Gwrando, O Dduw, fy ngweddi,
Ac nac ymguddia rhag fy ymbil,
3Dyro glust i mi ac erglyw fi!
Dirdynwyd fi yn fy myfyrdod, ac ymderfysgais,
4O herwydd llais y gelyn, rhag gorthrymder yr annuwiol;
Canys perant i anffawd ddisgyn arnaf,
Ac mewn llid, â gelyniaeth y’m herlidiant;
5Fy nghalon a ofidia o’m mewn,
A dychrynfëydd angau a syrthiasant arnaf,
6Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf,
A’m gorchuddio y mae echryd;
7A dywedyd yr wyf, “O na bai i mi adennydd fel colommen,
Fel yr ehedwn ymaith ac y trigwn yn llonydd,
8—Wele, ymbellhâwn gan ffoi ymaith,
Llettywn yn yr anialwch,—Selah.
9Fel y brysiwn i ddiangfa i mi,
Rhag y gwỳnt rhuthrol, rhag y dymmestl!”
10Dinystria, O Arglwydd; hollta cu tafodau,
—Canys gwelais drais a chynnen yn y ddinas,
11Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau,
A drygioni a thrychni (sydd) ynddi hi,
12Camweddau (sydd) ynddi hi,
Ac ni chilia o’i hëangle anrheithiad a thwyll,—
13Canys nid gelyn a’m difenwodd, fel y’i dïoddefwn,
Nid fy nghasâwr a ymfawrygodd i’m herbyn, fel yr ymguddiwn rhagddo,
14Eithr tydi,—dyn a brisid (gennyf) fel fi fy hun,
Fy nghymhar, a’m cydnabod,—
15Y rhai a fyddem gyda ’n gilydd yn cynhal melus gyfrinach,
I dŷ Dduw y rhodiem ym mhlith y dyrfa!
16Distryw (a fo) arnynt! disgynent hwy i annwn yn fyw!
Canys drygioni (sydd) yn eu trigfa, (ïe) ynddynt hwy eu hunain.
17Myfi,—ar Dduw yr wyf yn galw,
Ac Iehofah a’m hachub;
18Hwyr, a bore, a hanner dydd yr wyf yn myfyrio ac yn ymderfysgu,
A gwrandawodd Efe ar fy llais,
19Rhyddhâd mewn heddwch a roddes Efe i’m henaid, oddi wrth fy mrwydr,
Canys gyda llaweroedd y maent hwy yn fy erbyn,—
20Fe wrendy Duw a darostwng hwynt,—y Gorseddawg erioed,—
Y rhai nid oes ganddynt gadw llwon,
Ac nid ŷnt yn ofni Duw.
21Estynodd efe ei law yn erbyn y rhai mewn heddwch âg ef.
Halogodd ei gyfammod;
22Llyfn (yw) ymenynaidd eiriau ei enau,
Ond rhyfel (yw) ei galon;
Tynerach yw ei eiriau nag olew,
A hwynt yn gleddyfau noethion.
23Bwrw dy faich ar Iehofah, ac Efe a’th gynnal di,
Ni ad Efe byth i’r cyfiawn ysgogi:
24A Thithau, O Dduw, a’u disgyni hwynt i bydew ’r bedd:
Gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau,
Ond myfi a ymddiriedaf ynot Ti.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.