S. Ioan 21 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Gwedi’r pethau hyn, amlygodd yr Iesu Ei hun drachefn i’r disgyblion ar fôr Tiberias; ac amlygodd Ei hun fel hyn.

2Yr oedd ynghyd Shimon Petr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Cana yn Galilea, a meibion Zebedëus,

3a dau eraill o’i ddisgyblion: wrthynt y dywedodd Shimon Petr, Af i bysgotta. Dywedasant wrtho, Deuwn ninnau hefyd gyda thi. Aethant allan, ac aethant i’r cwch; ac y nos honno ni ddaliasant ddim.

4A’r bore weithian wedi dyfod, safodd yr Iesu ar y traeth; er hyny ni wyddai’r disgyblion mai’r Iesu ydoedd.

5Yna wrthynt y dywedodd yr Iesu, O blant, a oes rhywbeth i’w fwytta genych? Attebasant Iddo, Nac oes. Ac Efe a ddywedodd wrthynt,

6Bwriwch y rhwyd i’r tu dehau i’r cwch, a chewch. Bwriasant, gan hyny, ac ei thynu ni allent bellach, gan liaws y pysgod. Gan hyny dywedodd y disgybl hwnw yr hwn oedd hoff gan yr Iesu,

7wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Shimon Petr, gan hyny, wedi clywed mai yr Arglwydd yw, a ymwregysodd a’i amwisg, (canys yr oedd efe wedi ymddiosg),

8a bwriodd ei hun i’r môr: ond y disgyblion eraill, yn y cwch y daethant (canys nid oeddynt bell oddiwrth y tir, eithr oddeutu dau can cufudd) dan lusgo y rhwyd lawn o bysgod.

9Yna, pan ddaethant allan i’r tir, gwelsant dân o farwor yn gorwedd, a physgodyn yn gorwedd arno, a bara.

10Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Deuwch â rhai o’r pysgod a ddaliasoch yr awr hon.

11Gan hyny, esgynodd Shimon Petr, a llusgodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thriarddeg a deugain; ac er mai cymmaint oeddynt, ni rwygwyd y rhwyd.

12Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Deuwch ciniawwch. Ac ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn Iddo, Pwy wyt Ti? gan wybod mai yr Arglwydd ydoedd.

13Daeth yr Iesu, a chymmerodd fara, ac ei rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd.

14A hon, weithian, y drydedd waith yr amlygwyd yr Iesu i’r disgyblion, ar ol Ei gyfodi o feirw.

15Gan hyny, wedi ciniawa o honynt wrth Shimon Petr y dywedodd yr Iesu, Shimon mab Iona, ai hoff genyt Fi yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd: Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Portha Fy ŵyn.

16Dywedodd wrtho drachefn, yr ail waith, Shimon mab Iona, Ai hoff genyt Fi? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd; Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Bugeilia Fy nefaid.

17Dywedodd wrtho y drydedd waith, Shimon mab Iona, Ai Fy ngharu yr wyt? Poenwyd Petr am ddywedyd o Hono wrtho y drydedd waith, Ai Fy ngharu yr wyt? a dywedodd Wrtho, Arglwydd, pob peth Tydi a wyddost; Tydi a genfyddi mai Dy garu yr wyf.

18Wrtho y dywedodd yr Iesu, Portha Fy nefaid. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Pan oeddit ieuangc, ymwregysit dy hun, a rhodio yr oeddit lle yr ewyllysit; ond pan eloch yn hen, estyni allan dy ddwylaw, ac arall a’th wregysa, ac a’th ddwg lle nid ewyllysi.

19A hyn a ddywedodd Efe gan arwyddo trwy ba fath ar angau y gogoneddai efe Dduw: ac wedi dywedyd hyn, dywedodd wrtho, Canlyn Fi.

20Wedi troi o hono, Petr a welodd y disgybl oedd hoff gan yr Iesu yn canlyn, yr hwn hefyd a bwysodd, ar y swpper, ar Ei ddwyfron, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn Dy draddodi?

21Gan hyny, wrth weled hwn, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, A hwn, pa beth fydd?

22Wrtho y dywedodd yr Iesu, Os ewyllysiaf iddo ef aros hyd oni ddelwyf, pa beth yw i ti?

23Tydi, canlyn Fi. Gan hyny, allan yr aeth y gair hwn ymhlith y brodyr na fyddai y disgybl hwnw farw: ond wrtho ni ddywedasai’r Iesu, Ni fydd marw, eithr Os ewyllysiaf iddo ef aros hyd oni ddelwyf, pa beth yw i ti?

24Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ’sgrifenodd y pethau hyn; a gwyddom mai gwir yw ei dystiolaeth.

25Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid pob un o honynt, tybiaf na wnai hyd yn oed yr holl fyd gynhwys y llyfrau a ’sgrifenid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help