1Gwŷn fyd y rhai perffaith (eu) ffordd,
Y rhai sy’n rhodio ynghyfraith Iehofah!
2Gwŷn fyd y rhai sy’n cadw Ei gynreithiau Ef,
(Y rhai) â’r holl galon a’i ceisiant Ef,
3Ac ni wnaethant anwiredd,
(Ond) yn Ei ffyrdd Ef y rhodiasant!
4Tydi a osodaist Dy ordinhadau,
Fel y cadwer hwynt yn ddirfawr!
5O na sefydlid fy ffyrdd
I gadw Dy ddeddfau!
6Yna ni chywilyddid fi
Wrth edrych o honof ar Dy holl orchymynion,
7Y clodforwn Di âg uniondeb calon
Wrth ddysgu o honof farnedigaethau Dy gyfiawnder!
8Dy ddeddfau a gadwaf,
Na âd fi yn hollol!
9 Pa fodd y glanhâ llangc ei lwybr,
Fel yr ymgadwo yn ol Dy air?
10A’m holl galon y ceisiais Di,
Na âd i mi gyfeiliorni oddi wrth Dy orchymynion!
11Yn fy nghalon y cuddiais Dy ymadroddion,
Fel na phechwn i’th erbyn:
12Bendigedig (wyt) Tydi, O Iehofah,
Dysg i mi Dy ddeddfau!
13A’m gwefusau y traethais
Holl farnedigaethau Dy enau;
14Yn ffordd Dy gynreithiau yr ymhyfrydais,
Ië, goruwch pob cyfoeth;
15Yn Dy ordinhadau y myfyriaf,
Ac edrych yr wyf ar Dy lwybrau;
16Yn Dy ddeddfau yr ymddigrifaf,
Nid wyf yn anghofio Dy air.
17Bydd dda wrth Dy was, (fel) y byddwyf byw,
Ac y cadwyf Dy air:
18 Datguddia fy llygaid fel yr edrychwyf ar
Ryfedd bethau allan o’th gyfraith Di!
19 eistedd o dywysogion (a) llefaru i’m herbyn,
Dy was a fyfyria yn Dy ddeddfau Di;
24A’th gynreithiau (yw) fy hyfrydwch
(A) dynion fy nghyngor.
25Glynu wrth y llwch y mae f’enaid;
Bywhâ fi yn ol Dy air!
26Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist arnaf;
Dysg i mi Dy ddeddfau!
27Ffordd Dy ordinhadau eglurhâ i mi,
Fel y myfyriwyf yn Dy ryfeddodau!
28Difera fy enaid (ddagrau) gan ofid,
Cyfod fi yn ol Dy air!
29Ffordd y celwydd symmud oddi wrthyf,
A’th gyfraith yn raslawn dod i mi!
30Ffordd gwirionedd a ddewisais,
Dy farnedigaethau a osodais (ger fy mron);
31Glynais wrth Dy gynreithiau;
O Iehofah, na’m cywilyddia!
32Ffordd Dy orchymynion a redaf,
Canys mewn ehangder y gosodi fy nghalon!
33Dysg i mi, O Iehofah, ffordd Dy ddeddfau,
Fel y daliwyf arni hi beunydd!
34Eglurhâ (hi) i mi, a daliaf ar Dy gyfraith,
A chadwaf hi â’(m) holl galon:
35Hyffordda fi yn llwybr Dy orchymynion,
Canys ynddo ef yr ymhyfrydaf:
36Gogwydda fy nghalon at Dy gynreithiau,
Ac nid at elw:
37Tro heibio fy llygaid rhag edrych ar wagedd,
Yn Dy ffordd Di bywhâ fi:
38Sefydla i’th was Dy air,
Yr hwn (air yw),—Dy ofni Di:
39Tro heibio fy ngwaradwydd yr hwn yr wyf yn ei arswydo,
Canys Dy farnedigaethau Di (sy) dda:
40Wele, awyddus wyf i’th ordinhadau,
Yn Dy gyfiawnder bywhâ fi!
41Deued i mi Dy drugaredd, O Iehofah,
Dy iachawdwriaeth, yn ol Dy addewid!
42Yna yr attebaf i’m gwaradwyddwyr air,
Canys ymhyderu yr wyf yn Dy air Di;
43Ac na chipia o’m genau air y gwirionedd yn llwyr,
Canys yn Dy farnedigaethau y gobeithiaf;
44A chadwaf Dy gyfraith beunydd,
Yn dragywydd, a byth;
45Ac ymrodiaf mewn ehangder,
Canys Dy ordinhadau a geisiais;
46A llefaraf am Dy gynreithiau o flaen brenhinoedd,
Ac ni bydd cywilydd gennyf;
47Ac ymddigrifaf yn Dy orchymynion,
Y rhai a hoffais;
48A dyrchafaf fy nwylaw at Dy orchymynion, y rhai a hoffais,
A myfyriaf yn Dy ddeddfau!
49Cofia (Dy) air wrth Dy was,
O herwydd i Ti beri i mi obeithio!
50Hwn (yw) fy nghysur yn fy nghystudd,
Fod Dy addewid wedi ’m bywhâu:
51Y rhyfygus rai a’m gwatwarasant yn ddirfawr,
(Ond) oddi wrth Dy gyfraith ni throais;
52Meddyliais am Dy farnedigaethau tragywyddol,
O Iehofah, ac ymgysurais;
53Ennynfa a ymaflodd arnaf o herwydd yr annuwiolion,
Y rhai sy’n gadu Dy gyfraith;
54Yn salmau i mi yr aeth Dy ddeddfau,
Yn nhŷ fy mhererindod;
55Meddyliais liw nôs am Dy enw, 0 Iehofah,
A chedwais Dy gyfraith!
56Hyn a ddigwyddodd i mi,—
Ar Dy ordinhadau Di y daliais!
57O Iehofah, dywedais, “Fy nghyfran (yw)
Cadw Dy eiriau Di:”
58Ymbiliais â Thi â’(m) holl galon (gan ddywedyd)
“Bydd raslawn wrthyf yn ol Dy addewid:”
59Meddyliais am fy ffyrdd,
A throais fy nhraed at Dy gynreithiau;
60Brysiais, ac heb oedi dim,
I gadw Dy orchymynion;
61Maglau ’r annuwiolion a’m cylchynasant,
(Ond) Dy gyfraith nid anghofiais;
62Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu
Am farnedigaethau Dy gyfiawnder;
63Cyfaill myfi i’r rhai oll a’th ofnant,
Ac i’r rhai a gadwant Dy ordinhadau.
64O’th drugaredd, O Iehofah, llawn yw ’r ddaear;
Dy ddeddfau dysg Di i mi!
65Da a wnaethost i’th was,
O Iehofah, yn ol Dy air!
66Deall da a gwybodaeth dysg Di i mi,
Canys Dy orchymynion a gredaf!
67Cyn fy nghystuddio y cyfeiliornais,
Ond yn awr Dy air a gadwaf.
68Da (wyt) Tydi, ac yn gwneuthur daioni,
Dysg i mi Dy ddeddfau!
69Clytio celwydd i’m herbyn a wnaeth y rhyfygus rai,
—Minnau â’(m) holl galon a ddaliaf ar Dy ordinhadau,
70Cyn frased â ’r bloneg yw eu calon hwynt,
Minnau, yn Dy gyfraith yr ymddigrifaf;
71Peth da i mi i’m gael fy nghystuddio,
Fel y dysgwn Dy ddeddfau!
72Peth da i mi (yw) cyfraith Dy enau,
Rhagor miloedd o aur ac arian!
73Dy ddwylaw a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant;
Par i mi ddeall fel y dysgwyf Dy orchymynion!
74Y rhai a’th ofnant, gwelent hwy fi a llawenychent,
Canys yn Dy air y gobeithiais!
75Gwn, O Iehofah, mai cyfiawnder (yw) Dy farnedigaethau,
Ac (mewn) ffyddlondeb y’m cystuddiaist.
76Bydded, attolwg, Dy drugaredd i’m cysuro,
Yn ol Dy addewid i’th was!
77Deued i mi Dy drugareddau fel y byddwyf byw,
Canys Dy gyfraith (yw) fy nigrifwch!
78Cywilyddier y rhyfygus rai canys yn ddïachos y gwnant gam â mi,
(Ond) myfi a fyfyriaf yn Dy ordinhadau!
79Dychweled attaf y rhai a’th ofnant,
A’r rhai a adwaenant Dy gynreithiau!
80Bydded fy nghalon yn ddifeius yn Dy ddeddfau,
Fel na chywilyddier mo honof!
81Pallu am Dy gymmorth y mae fy enaid,
Am Dy air yr wyf yn gobeithio!
82Pallodd fy llygaid am Dy addewid,
Gan ddywedyd, “Pa bryd y’m diddeni?”
83Os aethum fel costrel mewn mŵg,
Dy ddeddfau nid anghofiais.
84Pa hyd (y parhâ) dyddiau Dy was?
Pa bryd y gwnei ar fy erlidwyr farn?
85Cloddio pyllau i mi a wnaeth y rhyfygus rai,
Y rhai ni (rodiant) yn ol Dy gyfraith!
86Dy holl orchymynion (ŷnt) wirionedd;
Yn ddïachos y’m herlidiasant; —cymmorth fi!
87Braidd na’m difasant ar y ddaear,
Er na bu i mi ymadael â’th ordinhadau!
88Yn ol Dy drugaredd bywhâ fi,
Fel y cadwyf gynraith Dy enau!
89Yn dragywydd, O Iehofah,
Y mae Dy air yn sefydledig, fel y nefoedd!
90Hyd genhedlaeth a chenhedlaeth (y mae) Dy ffyddlondeb,
Seiliaist y ddaear, a sefyll y mae hi;
91Wrth Dy farnedigaeth y safant heddyw,
Canys pob peth (sydd) weision i Ti.
92Oni bai (fod) Dy gyfraith yn ddigrifwch i mi,
Yna y darfuasai am danaf yn fy nghystudd!
93Yn dragywydd nid anghofiaf Dy ordinhadau,
Canys â hwynt y’m bywhêaist!
94Eiddot Ti myfi (ydwyf); gwared fi,
Canys Dy ordinhadau a geisiais;
95Am danaf y cynllwynodd annuwiolion, i’m difetha,
(Ond) Dy gynreithiau a ystyriaf!
96Ar bob perffeithrwydd y gwelaf ddiwedd,
(Ond) ehang yw Dy orchymyn Di, yn ddirfawr!
97Mor gu gennyf Dy gyfraith,
Pob dydd hyhi (yw) fy myfyrdod!
98Yn fwy doeth na ’m gelynion y ’m gwnaeth Dy gyfraith,
Canys yn dragywydd hyhi (sydd) gennyf;
99Yn fwy na’m holl athrawon yr wyf bwyllog,
Canys Dy gynreithiau (sydd) fyfyrdod i mi;
100Yn fwy na’r henuriaid yr wyf ystyriaethawl,
Canys ar Dy ordinhadau y daliais:
101Oddiwrth bob llwybr drwg yr atteliais fy nhraed,
Er mwyn cadw o honof Dy air;
102Oddiwrth Dy farnedigaethau ni chiliais,
Canys Tydi a’m dysgaist.
103Mor felus i daflod fy ngenau yw Dy addewid,
—Rhagor mêl i’m safn!
104Trwy Dy ordinhadau yr wyf ystyriaethawl,
Am hyny cas gennyf bob llwybr gau!
105Llusern i’m traed (yw) Dy air,
A llewyrch i’m llwybr!
106Tyngais, a chyflawnaf,
Y cadwn farnedigaethau Dy gyfiawnder.
107Cystuddiwyd fi yn ddirfawr,
O Iehofah, bywhâ fi yn ol Dy air;
108I offrymau ewyllysgar fy ngenau bydd foddlon attolwg, O Iehofah,
A’th farnedigaethau dysg Di i mi!
109Fy enaid (sydd) yn ngheudod fy llaw beunydd,
Ond Dy gyfraith nid anghofiais;
110Gosododd yr annuwiolion fagl i mi,
Ond oddi wrth Dy ordinhadau ni chyfeiliornais!
111Perchennogaf Dy gynreithiau yn dragywydd,
Canys digrifwch fy nghalon (ŷnt) hwynt-hwy!
112Gogwyddais fy nghalon i wneuthur Dy ddeddfau
Yn dragywydd, yn ddibaid!
113Yr ammheuwyr a gashâf,
A’th gyfraith Di a garaf!
114Fy lloches a’m tarian Tydi (wyt),
Yn Dy enw y gobeithiaf.
115Ciliwch oddi wrthyf, ddrygionus rai,
Fel y daliwyf ar orchymynion fy Nuw!
116Cynnal fi yn ol Dy addewid, fel y byddwyf byw,
Ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith!
117Attega fi, fel y’m gwareder,
Ac yr edrychwyf ar Dy ddeddfau beunydd!
118Dirmygi yr holl rai a grwydront oddi wrth Dy ddeddfau,
Canys twyllodrus (yw) eu dichell hwynt;
119Y sothach, (sef) annuwiolion y ddaear, a ddistrywi,
Am hyny y mae, y caraf Dy gynreithiau!
120Hyllu rhag Dy arswyd y mae (blew) fy nghnawd,
A rhag Dy farnedigaethau y mae arnaf ofn!
121Gwnaethum uniondeb a chyfiawnder,
Na âd fi i’m gorthrymwyr!
122Mechnia dros Dy was er daioni,
Na’m gorthrymed y rhyfygus rai!
123Fy llygaid a ballasant am Dy iachawdwriaeth,
Ac am addewid Dy gyfiawnder!
124Gwna i’th was yn ol Dy drugaredd,
A’th ddeddfau dysg Di i mi!
125Dy was Di myfi (ydwyf); par i mi ddeall,
Fel y gwypwyf Dy gynreithiau!
126Amser i weithio (yw) i Iehofah,
Diddymmasant Dy gyfraith!
127Gan hynny y caraf Dy orchymynion
Yn fwy nag aur, ac nag aur coeth.
128Gan hynny, Dy holl ordinhadau a gyfrifais yn uniawn,
Pob llwybr gau a gasêais!
129Rhyfedd (yw) Dy gynreithiau,
Gan hynny y deil fy enaid arnynt!
130Dadguddiad Dy eiriau a rydd oleuni,
Yn peri deall i’r anwybodus rai!
131Fy safn a rythais, a dyhëu yr wyf,
Canys i’th orchymynion yr wyf awyddus.
132Edrych arnaf, a bydd radlawn wrthyf,
Yn ol yr hyn sydd iawn tuag at hoffwyr Dy enw!
133Fy nghamrau sefydla yn Dy air,
Ac na ddyro lywodraeth arnaf i ddim anwiredd!
134Rhyddhâ fi oddi wrth orthrymder dynion,
Fel y cadwyf Dy ordinhadau!
135Dy wyneb llewyrcha ar Dy was,
A dysg i mi Dy ddeddfau!
136Ag afonydd o ddyfroedd y rhêd fy llygaid,
Am na chadwodd (dynion) Dy gyfraith Di!
137Cyfiawn Tydi, O Iehofah,
Ac union beth (yw) Dy farnedigaethau;
138Sefydlaist Dy gynreithiau yn gyfiawnder,
Ac yn ffyddlondeb,—yn ddirfawr (felly)!
139Difäodd fy zel fi,
O herwydd anghofio o’m gorthrymwyr Dy eiriau Di.
140Coeth y cafwyd Dy addewid,—yn ddirfawr (felly),
A’th was a’i hoffa.
141Gwael myfi a dirmygedig,
(Ond) Dy ordinhadau nid anghofiais.
142Dy gyfiawnder (sydd) gyfiawnder yn dragywydd,
A’th gyfraith ffyddlondeb (yw).
143Gorthrymder a chyfyngder a’m cawsant,
Ond Dy orchymynion (yw) fy nigrifwch!
144Cyfawnder (yw) Dy gynreithiau yn dragywydd;
Gwna i mi ddeall, fel y byddwyf byw!
145Galw yr wyf â’(m) holl galon; clyw fi, O Iehofah,
Ar Dy ddeddfau y daliaf!
146Galw Arnat yr wyf; gwared fi,
Fel y cadwyf Dy gynreithiau!
147Yn fore yn y cyfddydd y gwaeddaf,
Yn Dy eiriau y gobeithiaf;
148Rhagflaena fy llygaid wyliadwriaethau ’(r nos),
I fyfyrio am Dy addewid;
149Ar fy llef gwrando Di yn ol Dy drugaredd,
O Iehofah, yn ol Dy uniondeb bywhâ fi!
150Agosäodd dilynwyr ysgelerder (attaf),
Oddi wrth Dy gyfraith yr ymbellasant:—
151Agos Tydi, O Iehofah,
A’th holl orchymynion ffyddlondeb (ydynt)!
152Er ystalm y gwyddwn o’th gynreithiau,
Mai yn dragywydd y seiliaist hwynt!
153Gwel fy nghystudd a gwared fi,
Canys Dy gyfraith nid anghofiais!
154Dadleu fy nadl, a rhyddhâ fi,
O herwydd Dy addewid bywhâ fi!
155Pell oddi wrth yr annuwiolion (yw) ymwared,
Canys Dy ddeddfau ni cheisiant!
156Dy drugareddau (sydd) aml, O Iehofah,
Yn ol Dy farnedigaethau bywhâ fi!
157Aml (yw) fy erlidwyr a’m gorthrymwyr,
(Ond) oddi wrth Dy gynreithiau ni ogwyddais.
158Gwelais y gwrthgilwyr a ffieiddiad oedd arnaf,
Y rhai, Dy air Di ni chadwasant!
159Gwel, Dy ordinhadau a hoffaf,
O Iehofah, yn ol Dy drugaredd bywhâ fi!
160Dy air Di i gyd (sydd) ffyddlondeb,
Ac yn dragywydd (y mae) pob barnedigaeth Dy gyfiawnder!
161Tywysogion a’m herlidiasant heb achos,
Ond rhag Dy air Di y cryn fy nghalon!
162Gorlawen myfi oblegid Dy air,
Fel un yn cael ysglyfaeth lawer!
163Celwydd a gasêais ac a ffieiddiaf,
Dy gyfraith Di a hoffaf!
164Seithwaith yn y dydd y’th glodforaf,
Oblegid barnedigaethau Dy gyfiawnder!
165Heddwch mawr (sydd) i hoffwyr Dy gyfraith,
Ac nid (oes) iddynt hwy dramgwydd!
166Disgwyliais wrth Dy iachawdwriaeth, O Iehofah,
A’th orchymynion a wnaethum;
167Cadwodd fy enaid Dy gynreithiau,
Ac a’u hoffa hwynt yn ddirfawr!
168Cedwais Dy ordinhadau a’th gynreithiau,
Canys fy holl ffyrdd (sydd) ger Dy fron Di!
169Nesaed fy ngwaedd o’th flaen Di, O Iehofah,
Yn ol Dy air gwna i mi ddeall!
170Deued fy ymbil o’th flaen Di,
Yn ol Dy addewid gwared fi!
171Bwrlymed fy ngwefusau â mawl,
O herwydd dysgu o Honot i mi Dy ddeddfau!
172Caned fy nhafod Dy addewid,
Canys Dy holl orchymynion (sydd) ffyddlondeb!
173Bydded Dy law i’m cynnorthwyo,
Canys Dy ordinhadau a ddewisais!
174Hiraethais am Dy iachawdwriaeth, O Iehofah,
A’th gyfraith (yw) fy nigrifwch!
175Bydded fyw fy enaid, fel y’th folianno,
A’th farnedigaethau a’m cynnorthwyont!
176Cyfeiliornwr wyf fel dafad wedi ei cholli; —cais Dy was,
Canys Dy orchymynion nid anghofiais!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.