II. Corinthiaid 12 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ymffrostio sydd rhaid, ond nid yw fuddiol; a deuaf at weledigaethau a datguddiadau yr Arglwydd.

2Adwaenwn ddyn yng Nghrist, pedair mlynedd ar ddeg yn ol, (pa un ai yn y corph, nis gwn; ai allan o’r corph nis gwn; Duw a ŵyr,) gipio o’r cyfryw un hyd y drydedd nef;

3ac adwaenwn y cyfryw ddyn, ai yn y corph, ai yn wahan oddiwrth y corph,

4nis gwn, Duw a ŵyr, y cipiwyd ef i Baradwys, ac y clywodd eiriau annhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlawn i ddyn eu llefaru.

5Am y cyfryw ddyn yr ymffrostiaf;

6ond am danaf fy hun nid ymffrostiaf oddieithr yn fy ngwendidau. Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni fyddaf ynfyd, canys y gwir a ddywedaf; ond arbed yr wyf rhag i neb feddwl am danaf fi tu hwnt i’r hyn a wel fy mod i, neu a glyw oddiwrthyf.

7A thrwy ragoroldeb y datguddiedigaethau —; o herwydd paham, fel na’m tra-dyrchafer, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i’m cernodio, fel na’m tra-dyrchafer.

8Am y peth hwn tair gwaith yr attolygais i’r Arglwydd ar ymadael o hono â mi;

9a dywedodd Efe wrthyf, Digon i ti yw Fy ngras; canys Fy ngallu, mewn gwendid y’i perffeithir. Gyda’r hyfrydwch mwyaf, gan hyny, mwy yr ymffrostiaf yn fy ngwendidau, fel trosof y tabernaclo gallu Crist.

10Gan hyny, boddlonir fi mewn gwendidau, mewn saradau, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist; canys pan wyf wan, yna galluog wyf.

11Aethum yn ynfyd; chwi a’m cymhellasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol genych chwi; canys mewn dim ni fu’m ar ol i’r apostolion tra-rhagorol, er mai diddym ydwyf.

12Arwyddion yr apostol, yn wir, a weithredwyd yn eich plith, mewn pob amynedd, trwy arwyddion a rhyfeddodau a gwyrthiau;

13canys pa beth sydd y buoch ar ol ynddo, rhagor y lleill o’r eglwysi, oddieithr na fu’m i fy hun yn faich arnoch? Maddeuwch i mi yr anghyfiawnder hwn!

14Wele, y drydedd waith yw hon i mi fod yn barod i ddyfod attoch, ac ni fyddaf faich arnoch, canys nid wyf yn ceisio yr eiddoch chwi, eithr chwychwi; canys ni ddylai y plant drysori i’r rhieni, eithr y rhieni i’r plant;

15ond myfi, gyda’r hyfrydwch mwyaf y treuliaf ac y’m treulir tros eich eneidiau. Os mwy tros fesur yr wyf yn eich caru chwi, ai llai y’m cerir?

16Ond bydded, Na fu i mi bwyso arnoch, eithr gan fod yn gyfrwys, trwy ddichell y deliais chwi!

17A oes rhyw un o’r rhai a ddanfonais attoch, trwy’r hwn y gwnaethum elw o honoch?

18Deisyfiais ar Titus, ac ynghydag ef y danfonais y brawd: a elwodd Titus ryw beth arnoch? Onid yn yr un Yspryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?

19Er ys meityn y meddyliwch mai amddiffyn ein hunain wrthych chwi yr ydym. Ger bron Duw yng Nghrist y llefarwn. A’r oll, anwylyd, er eich adeiladaeth chwi y mae;

20canys ofni yr wyf nad, ysgatfydd, ar fy nyfodiad, y cyfryw rai ag a fynnwn y’ch ceir genyf, ac y’m ceir innau genych chwi yn gyfryw ag na fynnech; fod, ysgatfydd, gynhen, eiddigedd, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, annhrefnau;

21rhag, pan ddelwyf, drachefn, fy narostwng gan fy Nuw yn eich gwydd; a galaru o honof am lawer o’r rhai a bechasant eisoes, ac nad edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb, a’r anlladrwydd a wnaethant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help