1A dywedodd Iehofah wrthyf, Cymmer it’ lafn mettel mawr ac ysgrifena arno â phin dyn “I frysiaw’r yspail, i brysuraw’r anrhaith.”
2A gwnaethum yn dystion i mi dystion ffyddlawn, Wrïah yr offeiriad, a Zecharïah mab Ieberechïah.
3A mi a nesêais at y brophwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, a dywedodd Iehofah wrthyf, Galw ei enw ef Maher-shalal-hash-baz.
4Canys cyn y gŵyr y bachgen
I alw “Fy nhad,” a “Fy mam,”
Fe ddygir ymaith olud Damascus,
Ac yspail Samaria, o flaen Brenhin Assyria.
5A chwanegodd Iehofah lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd
6O herwydd gwrthod o’r bobl hyn
Ddyfroedd Shiloah y rhai sy’n cerdded yn araf,
A llawenychu o honynt yn Retsin a mab Remalïah,
7Am hynny, wele ’r Arglwydd yn dwyn i fynu arnynt
Ddyfroedd yr afon, y cryfion a’r mawrion,
(Sef) Brenhin Assyria a’i holl ogoniant;
Ac efe a esgyn dros eu holl ddyfr-leoedd,
Ac a aiff dros eu holl geulennydd hwynt;
8A threiddia efe drwy Iwdah, efe a lifa ac a aiff drosodd,
Hyd y gwddf y cyrraedd efe,
A bydd estyniad ei adenydd ef
Yn llonaid lled dy dir di, Immanwel.
9Gwybyddwch (hyn), bobloedd, a dychryner chwi;
A gwrandêwch, holl belledigion y ddaear;
Ymwregyswch a dychryner chwi, ymwregyswch a dychryner chwi;
10Ymgynghorwch gyngor, ac efe a ddiddymir,
Dywedwch y gair, ac ni saif,
Canys gyda ni (y mae) Duw.
11Canys fel hyn y dywedodd Iehofah wrthyf,
Pan, gan fy nghymmeryd wrth (fy) llaw, y’m dysgodd
Na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd,
12Na ddywedwch “Cydfwriad”
Am yr holl a ddywedo y bobl hyn “Cydfwriad:”
A’u hofn hwynt nac ofnwch chwi, ac nac arswydwch.
13 Iehofah y lluoedd, Efe a sancteiddiwch,
A (bydded) Efe yn ofn i chwi, ac Efe yn arswyd i chwi;
14Ac Efe a fydd yn gyssegr (i chwi),
Ond yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr
I ddau dŷ Israel,
Yn fagl ac yn rhwyd i breswylwŷr Ierwshalem.
15Ac『2yn eu mysg』3llawer a 1dramgwyddant
Ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddèlir.
16Rhwym y dystiolaeth, selia’r gyfraith ym mhlith fy nisgyblion.
17A minnau a ddisgwyliaf am Iehofah sydd yn cuddio Ei wyneb
Oddi wrth dŷ Iacob, ac a wyliaf am dano.
18Wele, fi, a’r plant
A roddes Iehofah i mi,
Yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel,
Oddi wrth Iehofah y lluoedd
Yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Tsïon.
19A phan ddywedant wrthych.
Ymofynwch â’r swynyddion ac â’r dewiniaid
Y rhai sy’n hustyng ac yn sibrwd; (dywedwch)
Onid â’u Duw yr ymofyn pobl?
A ymofynant hwy â’r 2meirw tros 1y byw?
20At y gyfraith ac at y dystiolaeth!
Oni ddywedant yn ol y gair hwn,
Yn yr hwn nid oes tywyllni,
21Fe dramwya (pob un) trwy (’r wlad) yn galed arno, ac yn newynog:
A bydd pan newyno, ac ymddigio,
Efe a felldithia ei frenhin a’i Dduw:
22Ac efe a dry ei wyneb i fynu, ac ar y ddaear yr edrych efe,
Ac wele drallod, a thywyllwch,
Caddug, cyfyngder, a thywyllwch (i’r hwn) y gyrrir ef.
23Ond (ar ol hyn) ni bydd tywyllwch yn (y wlad) yr hon y bu cyfyngder arni;
Er yn yr amser cyntaf y diystyrodd Efe
Dir Zabwlwn a Nephthali;
Etto yn yr amser diweddaf Efe a’i gogonedda,
(Sef) ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilee y cenhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.