Psalmau 47 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XLVII.

1I’r blaengeiniad. I feibion Corah. Psalm.

2O bobloedd oll curwch ddwylaw,

Llafar floeddiwch i Dduw â llef llawen-gân,

3Canys Iehofah, y Goruchaf ofnadwy,

Y Brenhin Mawr ar yr holl ddaear,—

4Darostwng Efe bobloedd danom ni,

A chenhedloedd dan ein traed;

5Dethol Efe i ni ein hetifeddiaeth,

(Sef) gogoniant Iacob, yr hwn a hoffodd Efe. Selah.

6 Aeth Duw i fynu â llafar floedd,

Iehofah â sain udgorn:—

7Cenwch i Dduw, cenwch,

Cenwch i’n Brenhin, cenwch,

8Canys Brenhin yr holl ddaear (yw) Duw;

Cenwch salm; —

9Teyrnasu y mae Duw ar y cenhedloedd,

Duw a eistedd ar orseddfaingc Ei sancteiddrwydd;

10Tywysogion y bobloedd a ymgasglasant

At Dduw Abraham,

11Canys eiddo Duw tariannau’r ddaear;

Dirfawr y dyrchafwyd Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help