1 yr ymadrodd ynghylch glyn gweledigaeth (Ierwshalem).
Beth (a ddarfu) i ti yn awr am it’ ddringo yn hollol ar nennau’r tai?
2 O derfysg y llanwyd
Y ddinas drystiawg, y ddinas lawen.
Dy laddedigion nid lladdedig â chleddyf (ydynt,)
Na meirw mewn rhyfel.
3Dy holl dywysogion a grwydrasant ynghŷd, oddiwrth y bwa yr ymadawsant,
A’r rhai oll a gafwyd ynot a rwymwyd ynghŷd, ym mhell yr aethant.
4Am hynny y dywedais, Edrychwch oddi wrthyf, mi a wylaf yn chwerw,
Na lafuriwch i’m cysuro am ddinystr merch fy mhobl.
5O herwydd diwrnod blinder a mathru a dyrysni (yw)
Gan yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd, ynglyn gweledigaeth,
Yn difurio ’r gaer, a’r gwaeddi (sydd) hyd at y mynyddoedd.
6Ac Elam sy’n dwyn y cawell saethau,
Gyda cherbydau dynion, a gwŷr meirch;
A Cir a ddinoethodd y darian.
7A bydd, dy ddyffrynoedd dewisol a lanwir o gerbydau,
A’r gwŷr meirch gan ymfyddino a ymfyddinant tua ’r porth.
8
9A rhwygiadau dinas Dafydd a gewch weled, mai aml (ydynt),
A chwi a gesglwch ddyfroedd y llyn isaf;
10A thai Ierwshalem a rifwch,
A chwi a dynnwch i lawr y tai i gadarnhâu ’r mur;
11A llynn a wnewch chwi rhwng y ddau fur
I ddyfroedd yr 2hen 1bysgodlyn;
Ond nid edrychwch at Wnaethurwr (y peth) hyn,
A’r Hwn, a’i lluniodd ef er ys talm, nid ystyriwch.
12A gwahoddodd yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd, yn y dydd hwnnw
I wylofain, ac i alarnad,
Ac i foeledd, ac i ymwregysu â sach-lïain;
13Ond wele lawenydd a gorfoledd,
Lladd gwartheg, a lladd defaid,
Bwytta cig, ac yfed gwin, (gan ddywedyd)
Bwyttâwn ac yfwn, canys y foru y byddwn feirw.
14A datguddiwyd yn fy nghlustiau lais Iehofah y lluoedd;
Yn ddïau ni wneir cymmod am yr anwiredd hwn hyd oni byddoch feirw,
Medd yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd.
15Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, at Shebna, yr hwn (sydd) ben-teulu, a dywed wrtho,
16Beth (sydd) i ti yma, a phwy (sydd) gennyt ti yma,
Am i ti naddu it’ dy hun yma fêdd?
O yr hwn sydd yn naddu yn uchel fêdd,
Ac yn trychu yn y graig ei drigfa!
17Wele Iehofah a’th deifl di allan
 thafliad grymmus, ac a’th orchuddia di gan dy orchuddio.
18Gan dreiglo Efe a’th dreigla di â threigliad,
Fel pel, i wlad ehang o fesur;
Yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant
Yn warth i dŷ dy feistr.
19A Mi a’th yrraf di o’th sefyllfa,
Ac o’th swydd y’th ddadymchwelaf.
20A bydd yn y dydd hwnnw,
Y galwaf ar Fy ngwas
Elïacim, fab Hilcïah:
21A gwisgaf ef â’th fantell di,
Ac â’th wregys di y nerthaf ef,
A’th lywodraeth di a roddaf yn ei law ef;
Ac efe a fydd yn dad i breswylwŷr Ierwshalem
Ac i dŷ Iwdah.
22 A rhoddaf agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef,
Ac efe a egyr, ac ni (bydd) a gauo,
A efe a gau, ac ni (bydd) a agoro.
23 A Mi a’i gosodaf ef fel hoel mewn man sicr;
Ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad:
24 Y symmudir yr hoel a osodwyd mewn man sicr,
A hi a dorrir, ac a syrth,
A thorrir y llwyth, yr hwn (oedd) arni;
Canys Iehofah a’i dywedodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.