S. Luc 20 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A bu ar un o’r dyddiau hyn, ac Efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn efengylu, daeth Arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion ynghyda’r henuriaid,

2a llefarasant, gan ddywedyd Wrtho, Dywaid wrthym trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn; neu pwy yw’r hwn a roddodd i Ti yr awdurdod hon?

3A chan atteb, dywedodd wrthynt, Gofyn i chwithau air a wnaf Finnau hefyd,

4a dywedwch Wrthyf, Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, neu o ddynion?

5A hwy a ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe, Paham na chredasoch ef;

6ond os dywedwn “O ddynion,” y bobl oll a’n llabyddiant, canys perswadiwyd hwynt yr oedd Ioan yn brophwyd.

7Ac attebasant, Na wyddent o ba le.

8A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd wrthych, “trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”

9A dechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon, Dyn a blannodd winllan, a gosododd hi i lafurwyr, a bu mewn gwlad ddieithr am amser maith.

10Ac yn yr amser, danfonodd at y llafurwyr was fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan; a’r llafurwyr wedi ei guro, a’i danfonasant ef ymaith yn wag-law.

11A chwanegodd anfon gwas arall; a hwy, wedi curo hwn hefyd ac ei ammharchu, a’i danfonasant ymaith yn wag-law.

12A chwanegodd anfon y trydydd; a hwy wedi ei glwyfo ef, a fwriasant hwn hefyd allan.

13A dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Danfonaf fy mab anwyl; hwyrach mai hwn a barchant.

14A phan welsant ef, y llafurwyr a ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd; lladdwn ef, fel y caffom ni yr etifeddiaeth.

15Ac wedi ei fwrw ef allan o’r winllan, lladdasant ef. Pa beth, gan hyny, a wna arglwydd y winllan iddynt?

16Daw a difetha y llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill. Ac wedi clywed o honynt, dywedasant, Na fydded.

17Ac Efe, gan edrych arnynt, a ddywedodd, Pa beth, gan hyny, yw hyn a ysgrifenwyd,

“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,

Hwn a aeth yn ben i’r gongl.”

18Pob un a syrthio ar y maen hwnw a ddryllir yn ddarnau; ac ar bwy bynnag y syrthio, chwal ef.

A cheisiodd yr ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid roddi eu dwylaw Arno yn yr un awr;

19ac ofnasant y bobl; canys gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddammeg hon:

20ac wedi gwylied, danfonasant gynllwynwyr yn cymmeryd arnynt eu bod yn gyfiawnion, fel y cymmerent afael yn Ei ymadrodd, i’w draddodi Ef i lywodraeth ac awdurdod y rhaglaw;

21a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai uniawn y dywedi ac y dysgi, ac na dderbyni wyneb, eithr mewn gwirionedd y dysgi ffordd Duw.

22Ai cyfreithlawn rhoddi o honom deyrnged i Cesar, ai nad yw?

23A chan ddeall eu cyfrwysdra hwy, dywedodd wrthynt, Dangoswch i Mi ddenar.

24Delw ac argraph pwy sydd ganddi? A hwy a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.

25Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Gan hyny, telwch bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw.

26Ac ni allasant gael gafael yn Ei ymadrodd, ger bron y bobl; a chan ryfeddu wrth Ei atteb tawsant.

27Ac wedi dyfod Atto, rhai o’r Tsadwceaid, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad,

28a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ysgrifenodd i ni, Os bydd brawd rhyw un wedi marw, a chanddo wraig, ac yntau yn ddiblant, ar gymmeryd o’i frawd ef y wraig, a chodi had i’w frawd.

29Saith brawd, ynte, oedd; ac y cyntaf, wedi cymmeryd gwraig,

30a fu farw yn ddiblant, ac yr ail, a’r trydydd a’i cymmerodd hi;

31ac yr un ffunud y saith ni adawsant blant, ac a fuant feirw.

32Ac ar ol hyny y bu farw y wraig hefyd.

33Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig?

34Ac wrthynt y dywedodd yr Iesu, Meibion y byd hwn a briodant ac a roddir i’w priodi;

35ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnw a’r adgyfodiad o feirw, nid ydynt nac yn priodi nac eu rhoddi i’w priodi;

36canys hyd yn oed marw mwy nis gallant, canys cyd-stad â’r angylion ydynt, a meibion Duw ydynt, gan fod yn feibion yr adgyfodiad.

37Ond y cyfodir y meirw, Mosheh hefyd a hyspysodd yn “Y Berth,” pan eilw Iehofah “Duw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob;”

38a Duw, nid Duw meirwon yw, eithr y rhai byw, canys pawb o honom, Ynddo Ef yr ydym yn byw.

39A chan atteb, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist;

40canys ni feiddient mwy ofyn dim Iddo.

41A dywedodd wrthynt, Pa fodd y dywedant fod y Crist yn Fab Dafydd?

42canys Dafydd ei hun a ddywaid yn Llyfr y Psalmau,

“Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw,

43Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed,”

44Dafydd, gan hyny, “Arglwydd” a eilw efe Ef, a pha fodd mai mab iddo yw?

45Ac wrth glywed o’r holl bobl, dywedodd wrth Ei ddisgyblion,

46Cymmerwch ofal rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn gwisgoedd llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau,

47a’r prif led-orweddleoedd yn y swpperau, y rhai a lwyr-fwyttant dai y gwragedd gweddwon, ac er rhith y hir-weddïant. Y rhai hyn a dderbyniant gondemniad gorlawnach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help