Iöb 23 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXIII.

1Yna yr attebod Iöb, a dywedodd,

2Heddyw hefyd chwerw (yw) fy nghwyno,

Canys y llaw arnaf sydd drom ar fy uchenaid.

3O na bai i mi wybod pa sut y cawn hŷd iddo Ef,

I mi ddyfod at Ei eisteddfa Ef,

4I mi drefnu ’r ddadl ger Ei fron Ef,

Ac i mi lenwi fy ngenau â rhesymmau,

5I mi wybod yr ymadroddion a’r y’m hattebai Efe (â hwynt),

Ac i mi ddeall pa beth a ddywedai Efe wrthyf!

6Ai yn amlder Ei gadernid yr ymddadleu Efe â mi?

Nage — ond bydded iddo Ef roddi (ystyriaeth) i mi!

7Yna un cyfiawn a fyddai yn ymresymmu âg Ef,

Ac y’m rhyddhêid am byth oddi wrth fy Marnwr.

8Wele, ym mlaen yr âf — ac nid (yw) Efe yno,

Neu yn ol — ac nid wyf yn Ei ganfod,

9 Neu ar y llaw aswy yn Ei waith (y mae Efe) — ac nid wyf yn ardremu (Arno),

Ymorchuddia ar y llaw ddehau — ac nid wyf yn E i weled:

10 Canys Efe a edwyn y ffordd sydd gennyf;

Pan brofo Efe fi, fel aur y deuaf allan;

11Wrth Ei iawn-lwybr Ef yr ymlynodd fy nhroed,

Ei ffordd Ef a gedwais i, ac ni ŵyrais;

12Gorchymmyn Ei wefusau Ef, ni chiliais oddi wrtho,

Rhagor fy Ond Efe (sydd) âg un (bwriad,) a phwy a’i trŷ Ef yn ol?

A’i enaid Ef a chwennych, ac Efe a wna;

14Canys Efe a gyflawna fy nedfryd,

Ac o’r fath hon (y mae) llawer ganddo Ef;

15Gan hynny rhag Ei wyneb Ef y dychrynir fi,

Ystyried yr wyf ac arswydo rhagddo Ef,

16A Duw a dorrodd fy nghalon,

A’r Hollalluog a’m dychrynnodd,

17 Canys nid fy mod wedi fy irdangu rhag wyneb y tywyllwch,

Neu rhag fy ngwyneb fy hun, (yr hwn) y mae ’r fagddu yn ei doi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help