1Dïolchwch i Iehofah, canys da (yw),
—Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
2Dïolchwch i Dduw y duwiau,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
3Dïolchwch i Arglwydd yr arglwyddi,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
4I’r Hwn a wnaeth ryfeddodau mawrion, Ei hun,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
5I’r Hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
6I’r Hwn a estynodd y ddaear oddi ar y dyfroedd,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
7I’r Hwn a wnaeth y goleuadau mawrion,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
8Yr haul i lywodraethu’r dydd,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
9Y lleuad a’r ser i lywodraethu ’r nos,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
10I’r Hwn a darawodd yr Aipht yn eu cyntaf-anedigion,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
11Ac a ddug allan Israel o’u mysg hwynt,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
12A llaw gref ac â braich estynedig,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
13I’r Hwn a barthodd y môr chwynog yn barthau,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
14Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
15Ac a ddymchwelodd Pharaoh a’i lu yn y môr chwynog,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
16I’r Hwn a dywysodd Ei bobl yn yr anialwch,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
17I’r Hwn a darawodd frenhinoedd mawrion,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
18Ac a laddodd frenhinoedd nerthol,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
19(Sef) Sihon, Brenhin yr Amoriaid,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
20Ac Og, Brenhin Bashan,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
21Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
22Yn etifeddiaeth i Israel Ei was,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
23Yr Hwn yn ein hisel radd a’n cofiodd ni,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd;
24Ac a’n rhyddhâodd oddi wrth ein gorthrymwyr,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
25Ac sy’n rhoddi ymborth i bob cnawd,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
26Dïolchwch i Dduw y nefoedd,
Canys yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.