S. Marc 10 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac oddi yno, wedi cyfodi o Hono, yr aeth i gyffiniau Iwdea, ac i lan arall yr Iorddonen; a thrachefn y cyd-gyrchodd torfeydd Atto; ac fel yr oedd yn arferu, dysgodd hwynt drachefn.

2Ac wedi dyfod Atto, y Pharisheaid a ofynasant Iddo, Ai cyfreithlawn yw i ddyn ollwng ymaith ei wraig? gan Ei demtio Ef.

3Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt,

4Pa beth a orchymynodd Mosheh i chwi? A hwy a ddywedasant, Mosheh a ganiattaodd ysgrifenu llythyr ysgar, ac ei gollwng hi ymaith.

5A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch yr ysgrifenodd i chwi y gorchymyn hwn:

6ond o ddechreuad y greadigaeth,

“Gwrryw a banyw y gwnaeth Efe hwynt.”

7O herwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a bydd y ddau yn un cnawd;

8fel nad ydynt mwy yn ddau, eithr yn un cnawd,

9Yr hyn, gan hyny, y bu i Dduw ei gydgyssylltu,

Na fydded i ddyn ei wahanu ef.

10Ac yn y tŷ drachefn y disgyblion a ofynasant Iddo am y peth hwn;

11a dywedodd wrthynt, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, godinebu yn ei herbyn y mae;

12ac os hithau, wedi gollwng ymaith ei gwr, a briodo un arall, godinebu y mae.

13A dygasant Atto blant bychain, fel y cyffyrddai â hwynt; ac y disgyblion a ddwrdiasant hwynt.

14Ac wrth weled hyn, yr Iesu a dristawyd, a dywedodd wrthynt, Gadewch i’r plant bychain ddyfod Attaf; na rwystrwch hwynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

15Yn wir y dywedaf wrthych, Pwy bynnag na dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid aiff efe ddim i mewn iddi.

16Ac wedi eu cymmeryd hwynt yn Ei freichiau, bendithiodd hwynt, dan roddi Ei ddwylaw arnynt.

17Ac wrth fyned allan o hono ar Ei ffordd, gan redeg Atto o ryw un, a phenlinio Iddo, gofynodd Iddo, Athraw da, pa beth da a wnaf fel y bo bywyd tragywyddol i’w etifeddu genyf?

18A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi Fi yn dda?

19Nid oes neb yn dda, oddieithr un, sef Duw. Y gorchymynion a wyddost, Na ladd; Na odineba; Na ladratta; Na au-dystiolaetha; Na cham-golleda: Anrhydedda dy dad a’th fam.

20Ac efe a ddywedodd Wrtho, Athraw, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuengctyd.

21A’r Iesu, gan edrych arno, a’i hoffodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd genyt ti ar ol; dos, a chymmaint ag sydd genyt, gwerth ef, a dyro i’r tlodion; a bydd i ti drysor yn y nef; a thyred, a chanlyn Fi.

22Ac efe, wedi pruddhau wrth yr ymadrodd, a aeth ymaith yn athrist; canys yr oedd efe a chanddo feddiannau lawer.

23Ac wedi edrych o amgylch, yr Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Mor anhawdd y bydd i’r rhai a golud ganddynt, fyned i mewn i deyrnas Dduw.

24A’r disgyblion a synnasant wrth Ei eiriau. A’r Iesu, gan atteb drachefn, a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anhawdd yw myned o’r rhai sydd yn ymddiried yn eu golud i mewn i deyrnas Dduw:

25Haws yw myned o gamel trwy grau nodwydd ddur

Na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw.

26A bu aruthr dros ben ganddynt, gan ddywedyd Wrtho, A phwy a all fod yn gadwedig?

27A chan edrych arnynt, yr Iesu a ddywedodd, Gyda dynion ammhosibl yw, eithr nid gyda Duw; canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.

28A dechreuodd Petr ddywedyd Wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom Di.

29Dywedodd yr Iesu, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid oes neb a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam, neu dad, neu blant, neu diroedd,

30o’m hachos I a’r efengyl, na dderbyn y can cymmaint yn awr, y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mammau, a phlant, a thiroedd, ynghydag erlidiau; ac yn y byd y sy’n dyfod fywyd tragywyddol.

31Ond llawer fydd o’r rhai blaenaf yn olaf, ac o’r rhai olaf yn flaenaf.

32Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fynu i Ierwshalem; a myned o’u blaen hwynt yr oedd yr Iesu: a synnasant, a hwy, yn canlyn, a ofnasant. Ac wedi cymmeryd Atto y deuddeg drachefn, dechreuodd ddywedyd wrthynt hwy y pethau ar fedr digwydd Iddo Ef,

33Wele, myned i fynu i Ierwshalem yr ydym, a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion; a chondemniant Ef i farwolaeth, a thraddodant Ef i’r Cenhedloedd;

34a gwatwarant Ef, a phoerant Arno, a fflangellant Ef, a lladdant Ef; ac wedi tridiau yr adgyfyd.

35A daeth Atto Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, gan ddywedyd Wrtho, Athraw, ewyllysiem wneuthur o Honot i ni yr hyn a ddymunem Genyt.

36Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o Honof i chwi?

37A hwy a ddywedasant Wrtho, Dyro i ni, i un eistedd ar Dy ddeheulaw, a’r llall ar yr aswy, yn Dy ogoniant.

38A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nis gwyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwppan yr wyf Fi yn ei yfed; neu eich bedyddio â’r bedydd y bedyddir Fi ag ef?

39A hwy a ddywedasant Wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Y cwppan, yr hwn yr wyf Fi yn ei yfed, a yfwch; ac â’r bedydd y bedyddir Fi ag ef, y’ch bedyddir;

40ond eistedd ar Fy neheulaw, neu ar yr aswy, nid yw Fy eiddo i’w roddi, ond i’r rhai y darparwyd.

41Ac wedi clywed o’r deg, dechreuasant sorri o achos Iago ac Ioan.

42Ac wedi eu galw hwynt Atto, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gwyddoch fod y rhai y tybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt:

43ond nid felly y bydd yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a ewyllysio fyned yn fawr yn eich plith,

44fydd eich gweinidog; a phwy bynnag a ewyllysio, yn eich plith,

45fod yn gyntaf, fydd was i bawb; canys Mab y Dyn hefyd ni ddaeth i’w wasanaethu, eithr i wasanaethu, ac i roi Ei einioes yn bridwerth dros lawer.

46A daethant i Iericho: ac wrth fyned allan o Hono Ef o Iericho, ac o’i ddisgyblion, ac o dyrfa fawr, mab Timëus, Bartimëus, cardottyn dall, oedd yn eistedd ar ymyl y ffordd;

47ac wedi clywed mai Iesu y Natsaread ydoedd, dechreuodd waeddi a dywedyd, Mab Dafydd, Iesu, tosturia wrthyf.

48A’i ddwrdio ef a wnaeth llawer, am dewi o hono; ond efe, llawer mwy y gwaeddodd, Fab Dafydd, tosturia wrthyf.

49Ac wedi sefyll, yr Iesu a ddywedodd, Galwch ef: a galwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Bydd hyderus; cyfod; dy alw y mae.

50Ac efe, wedi taflu ymaith ei gochl, ac wedi neidio i fynu, a ddaeth at yr Iesu.

51A chan atteb iddo, yr Iesu a ddywedodd, Pa beth a ewyllysi ei wneuthur o Honof i ti? A’r dall a ddywedodd Wrtho, Rabboni, caffael o honof fy ngolwg.

52A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd; ac yn uniawn y cafodd efe ei olwg; a chanlynodd Ef ar y ffordd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help