Ephesiaid 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A chwychwi, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a’ch pechodau,

2yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol gyrfa’r byd hwn, yn ol tywysog awdurdod yr awyr, yr yspryd y sydd yn awr yn gweithredu ym meibion anufudd-dod,

3ymhlith y rhai yr oeddym ni oll â’n hymarweddiad gynt yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau’r cnawd a’r meddyliau, ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, fel y lleill;

4ond Duw, gan fod yn oludog o drugaredd,

5o herwydd Ei gariad mawr â’r hwn y carodd Efe ni, ïe, nyni, pan yn feirw trwy ein camweddau, a gydfywhaodd Efe ynghyda Christ,

6(trwy ras yr ydych yn gadwedig,) ac a’n cyd-gyfododd, a gwnaeth i ni gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu,

7fel y dangosai i’r oesoedd sy’n dyfod ragorol olud Ei ras mewn cymmwynasgarwch tuag attom yng Nghrist Iesu,

8canys trwy ras yr ydych yn gadwedig trwy ffydd, a hyn, nid o honoch chwi y mae; o eiddo Duw y mae’r rhodd;

9nid o weithredoedd y mae, fel na bo i neb ymffrostio;

10canys Ei waith Ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu, er gweithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw fel ynddynt y rhodiem.

11Am hyny, cofiwch mai gynt yr oeddych chwi, (y cenhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwir Di-amdorriad gan yr hyn a elwir Amdorriad,

12yn y cnawd, o waith llaw,) yr oeddych y pryd hyny yn wahan oddiwrth Grist, yn ddieithriedig oddiwrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth gyfammodau yr addewid, heb obaith genych ac heb Dduw yn y byd;

13ond yn awr yng Nghrist Iesu, chwychwi y rhai oeddych gynt ym mhell, a wnaethpwyd yn agos yngwaed Crist;

14canys Efe yw ein heddwch, yr Hwn a wnaeth y ddau yn un, a chanol-fur y gwahaniaeth a ddattododd Efe,

15gan ddirymmu’r gelyniaeth trwy Ei gnawd, sef cyfraith y gorchymynion mewn ordeiniadau; fel y creai y ddau, Ynddo Ei hun, yn un dyn newydd,

16gan wneuthur heddwch, ac y cymmodai y ddau, mewn un corph, â Duw, trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth arni hi.

17A daeth Efe ac efengylodd heddwch i chwi y rhai ym mhell,

18ac heddwch i’r rhai yn agos, canys Trwyddo Ef y mae genym, ni ein dau, ddyfodfa mewn un Yspryd at y Tad.

19Gan hyny, ynte, nid ydych mwyach yn ddieithriaid ac ymdeithyddion, eithr yr ydych yn gyd-ddinasyddion â’r saint ac yn deulu Duw,

20wedi eich adeiladu ar sail yr apostolion a’r prophwydi, ac Iesu Grist Ei hun yn ben congl-faen,

21yn yr hwn yr holl adeilad wedi ei chymmwys gydgyssylltu sy’n cynnyddu yn deml sanctaidd yn yr Arglwydd;

22yn yr Hwn yr ydych chwi hefyd yn cael eich cyd-adeiladu yn breswylfod i Dduw, yn yr Yspryd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help