1I’r blaengeiniad, ar yr offer tannau. Psalm i Asaph. Cân.
2Adnabyddus yn Iwdah (yw) Duw,
Yn Israel mawr (yw) Ei enw Ef;
3Ac y mae Ei babell yn Shalem,
A’i drigfa yn Tsïon,
4Yno y chwilfriwiodd Efe fellt y bwa,
Y tarian, a’r cleddyf, a’r frwydr. Selah.
5Ysplenydd Tydi, gogoneddusach na mynyddoedd yr yspail!
6Yspeliwyd y cedyrn galon, hepiasant eu hûn,
Ac ni chafodd yr holl wŷr o nerth hŷd i’w dwylaw:
7Gan Dy gystwyad Di, O Dduw Iacob,
Trymgysgodd cystal cerbyd a march.
8Tydi,—ofnadwy Tydi,
A phwy a saif o’th flaen yn amser Dy lid?
9O’r nefoedd y peraist glywed uniondeb;
Y ddaear a ofnodd ac a ostegodd,
10Pan gyfododd Duw i farn,
I achub holl drueiniaid y ddaear. Selah.
11Canys cynddaredd dyn a’th folianna Di,
A gweddill cynddaredd yr ymwregysi:
12Addunedwch a thelwch i Iehofah eich Duw,
Y rhai oll sydd o’i amgylch Ef, dygant anrheg i’r Ofnadwy!
13Tyr Efe ymaith yspryd tywysogion,
Ofnadwy (yw) i frenhinoedd y ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.