Diarhebion 16 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XVI.

1Eiddo dyn (yw) arfaethau ’r galon,

Ond oddi wrth Iehofah (y mae) ’r atteb i’r tafod.

2Holl ffyrdd gwr, glân (ŷnt) yn ei olwg ei hun,

Ond pwyso yr ysprydion (y mae) Iehofah.

3Ar Iehofah y bo it ’dreiglo dy weithedoedd,

Felly y sefydlir dy fwriadau.

4 Pob peth i’w ddiben, a wnaeth Iehofah,

A ’r annuwiol hefyd, i ddydd drygfyd.

5Ffieiddbeth gan Iehofah (yw) pawb uchel o feddwl,

gariad a ffyddlondeb y gwneir cymmod dros anwiredd,

A thrwy ofn Iehofah (y mae) cilio oddi wrth ddrwg.

7Pan ymhyfrydo Iehofah yn ffordd gwr,

Ei elynion ef hefyd a heddycha Efe âg ef.

8Gwell ychydig trwy gyfiawnder,

Nag amlder cynnyrch trwy anuniondeb.

9Calon dyn a ddychymmyg ei ffordd ef,

Ond Iehofah a sefydla ei gamrau.

10Oracl (sydd) ar wefusau brenhin,

Mewn barn nid anghywir fydd ei enau ef.

11Pwys a chloriannau uniawn (ŷnt) eiddo Iehofah,

Ei waith Ef (yw) holl gerrig y gôd.

12Ffieiddbeth gan frenhinoedd (yw) gwneuthur annuwioldeb,

Canys trwy gyfiawnder y cadarnhêir yr orsedd.

13Hyfrydwch brenhinoedd (yw) gwefusau cyfiawn,

Ac a lefaro ’n uniawn, a gâr efe.

14Angerdd llid brenhin (sydd) engyl angau,

Ond gwr doeth a’i dyhudda.

15Yn llewyrch gwyneb brenhin (y mae) bywyd,

A’i ewyllys da ef (sydd) fel cwmmwl gwlaw diweddar.

16Cael doethineb,—pa faint gwell (yw) nag aur,

A chael deall,—rhagorach nag arian!

17Sarn y cyfiawn (yw) cilio oddi wrth ddrwg,

A gadwo ei enaid, a ddeil ar ei ffordd.

18Cyn chwilfriwiad (y mae) balchder,

A chyn tramgwydd (y mae) uchder yspryd.

19Gwell bod yn isel o yspryd gyda ’r gostyngedig,

Na rhannu ’r yspail gyda ’r beilchion.

20A ddalio sulw ar y gair, a gaiff ddaioni,

Ac a ymddiriedo yn Iehofah, gwyn ei fyd!

21Y doeth o galon a gyhoeddir yn ddeallus,

A melusder gwefusau a chwannega ddysg.

22Ffynnon bywyd (yw) pwyll y pwyllog,

Ond cerydd yr ynfydion (sydd) ynfydrwydd.

23Calon y doeth a wna yn bwyllog ei enau,

Ac ar ei wefusau y chwannega efe ddysg.

24Dil mel (yw) geiriau peraidd,

Melusder (ŷnt) i’r enaid, ac iachâd i’r corph.

25 baich a ddyd ei enau arno.

27Gwr anfad (sy)’n cloddio drwg,

Ac ar ei wefusau (y mae) megis tân yn llosgi.

28Gwr gŵyr-dröawg a ddenfyn ymryson,

A’r hustyngwr a wahana gyfaill.

29Gwr treisig a huda ei gymmydog,

Ac a’i tywys i ffordd nid (yw) dda.

30A gauo ei lygaid i feddwl am drawsedd,

A wasgo ei wefusau,—i ben y dug efe ’r drwg.

31Coron brydferth (yw) penllwydni,

Yn ffordd cyfiawnder y ceir ef.

32Gwell y dïog i ddig na ’r gwron,

A theyrnaswr ar ei yspryd nag ennillwr dinas.

33I’r arffed y bwrir y coelbren,

Ond oddi wrth Iehofah (y mae) ei holl farn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help