Yr Actau 13 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac yr oedd yn Antiochia, yn yr eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon, Barnabas a Shimon yr hwn a elwid Niger, a Lucius y Curenead, a Maenan brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Shawl.

2Ac a hwy yn gwasanaethu’r Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch, yn awr, i Mi Barnabas a Shawl i’r gwaith at yr hwn y gelwais hwynt.

3Yna, wedi ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylaw arnynt, y gollyngasant hwynt ymaith.

4Hwythau, gan hyny, wedi eu danfon allan gan yr Yspryd Glân, a ddaethant i wared i Seleucia, ac oddi yno y mordwyasant ymaith i Cuprus.

5A phan yr oeddynt yn Shalamus, mynegasant Air Duw yn sunagogau yr Iwddewon; ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn weinidog.

6Ac wedi tramwy trwy’r holl ynys hyd Paphos, cawsant ryw ŵr o swynwr, gau-brophwyd Iwddewig, a’i enw Bar-ieshu,

7yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr deallus; hwn, wedi galw atto Barnabas a Shawl, a ddeisyfiodd glywed Gair Duw:

8ond eu gwrthsefyll hwynt a wnaeth Elymas, y swynwr (canys felly y cyfieithir ei enw ef), gan geisio gwyrdroi y rhaglaw oddiwrth y ffydd.

9A Shawl, yr hwn a elwir hefyd Paul, wedi ei lenwi â’r Yspryd Glân, gan edrych yn graff arno,

10a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob anfadrwydd, mab diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi â gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd, y rhai uniawn?

11Ac yn awr, wele, llaw yr Arglwydd sydd arnat, a byddi ddall, heb weled yr haul am amser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, a chan fyned o amgylch, ceisiai rai i’w arwain erbyn ei law.

12Yna, gan weled o’r rhaglaw yr hyn a ddigwyddodd, credodd, yn aruthr ganddo wrth athrawiaeth yr Arglwydd.

13Ac wedi hwylio ymaith o Paphos, Paul a’r rhai gydag ef a ddaethant i Perga yn Pamphulia; ond Ioan, wedi ymadael â hwynt, a ddychwelodd i Ierwshalem;

14a hwythau, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia; ac wedi myned i’r sunagog ar y dydd Sabbath, eisteddasant;

15ac ar ol darllen y Gyfraith a’r Prophwydi, danfonodd pennaethiaid y sunagog attynt, gan ddywedyd Brodyr, os oes gair o gyngor genych i’r bobl, traethwch,

16Ac wedi cyfodi o Paul, ac amneidio â’i law, dywedodd,

Gwŷr o Israel, a’r rhai sy’n ofni Duw, gwrandewch.

17Duw y bobl hyn, Israel, a etholodd ein tadau; ac y bobl a ddyrchafodd Efe yn y preswyliad yngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dug hwynt allan o honi;

18ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd eu moesau yn yr anialwch;

19ac wedi dinystrio saith genedl yngwlad Canaan

20â choelbren y parthodd eu gwlad am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain; ac wedi hyny y rhoddes farnwyr hyd Shamuel y prophwyd;

21ac ar ol hyny y gofynasant frenhin, ac iddynt y rhoddes Duw Shawl, mab Cish, gŵr o lwyth Beniamin, ddeugain mlynedd;

22ac wedi ei symmud ef, cyfododd Efe Dafydd iddynt, yn frenhin, i’r hwn y tystiolaethodd, gan ddywedyd, Cefais Dafydd, mab Ieshe, gŵr yn ol Fy nghalon, yr hwn a wna Fy holl ewyllys.

23O had hwn, Duw, yn ol Ei addewid, a ddug i Israel Iachawdwr, Iesu, gwedi rhag-bregethu o Ioan,

24o flaen Ei ddyfodiad i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.

25A phan gyflawnai Ioan ei redfa, dywedodd, Pa beth y tybiwch fy mod i? Nid myfi yw Efe: eithr wele, dyfod ar fy ol y mae yr Hwn nad wyf deilwng i ddattod esgidiau Ei draed.

26Brodyr, meibion cenedl Abraham, a’r rhai yn eich plith y sy’n ofni Duw, i chwi y mae Gair yr iachawdwriaeth hon wedi ei ddanfon,

27canys y rhai yn trigo yn Ierwshalem a’u tywysogion, gan nad adwaenant Ef na lleisiau y prophwydi y rhai a ddarllenid bob Sabbath, gan Ei farnu Ef a’u cyflawnasant.

28Ac heb gael Ynddo ddim achos angau, dymunasant ar Pilat y lleddid Ef.

29A phan gwblhasant yr holl bethau a ’sgrifenasid am Dano, wedi Ei dynnu i lawr oddi ar y pren, dodasant Ef mewn bedd.

30Ond Duw a’i cyfododd Ef o feirw, ac Efe a welwyd

31ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fynu gydag Ef o Galilea i Ierwshalem, y rhai, yr awr hon, ydynt Ei dystion wrth y bobl.

32Ac nyni sy’n efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau, mai hwn y mae Duw wedi ei gyflawni i’n plant, gan gyfodi yr Iesu;

33fel ag yn yr ail psalm yr ysgrifenwyd,

“Fy Mab Tydi ydwyt, Myfi heddyw a’th genhedlais;”

34ac y cyfododd Ef o feirw, ddim mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd,

“Rhoddaf Iddo drugareddau sicr Dafydd:”

35o herwydd Iddo mewn psalm arall ddweud,

“Ni roddi Dy Sanct i weled llygredigaeth.”

36Canys Dafydd, yn wir, wedi iddo yn ei genhedlaeth wasanaethu cynghor Duw, a hunodd, ac a roddwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth;

37ond yr Hwn y bu i Dduw Ei gyfodi, ni welodd lygredigaeth.

38Bydded hyspys, gan hyny, i chwi, frodyr, mai trwy Hwn i chwi y mynegir maddeuant pechodau:

39ac oddi wrth yr holl bethau na allech trwy Gyfraith Mosheh eich cyfiawnhau oddi wrthynt, trwy Hwn pob un a gredo a gyfiawnheir.

40Edrychwch, gan hyny, na ddelo arnoch yr hyn a ddywedwyd yn y Prophwydi,

41“Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflenwch;

Canys gwaith yr wyf Fi yn ei weithio yn eich dyddiau,

Gwaith na chredwch mo’no er i neb ei fynegi i chwi.”

42Ac wrth fyned allan o honynt, deisyfiasant gael ar y Sabbath nesaf fynegi iddynt yr ymadroddion hyn.

43A phan ollyngwyd y cyfarfod ymaith, canlynodd llawer o’r Iwddewon ac o’r proselytiaid defosiynol ar ol Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a gynghorasant iddynt aros yngras Duw.

44A’r Sabbath nesaf, bron yr holl ddinas a gasglwyd ynghyd i glywed Gair Duw.

45A chan weled o’r Iwddewon y torfeydd, llanwyd hwynt o eiddigedd, a gwrth-ddywedasant yn erbyn y pethau a leferid gan Paul, gan gablu.

46A chan lefaru yn hyderus o Paul a Barnabas hefyd, dywedasant, Wrthych chwi yn gyntaf yr oedd rhaid i Air Duw gael ei lefaru; ac o herwydd ei wrthod yr ydych, ac yn barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragywyddol, wele, troi at y cenhedloedd yr ydym;

47canys felly y gorchymynodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd,

“Gosodais di yn oleuni i’r cenhedloedd,

Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.”

48Ac wrth glywed hyn, y cenhedloedd a lawenychent ac a ogoneddent Air Duw; a chredodd cynnifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol.

49A dygpwyd Gair yr Arglwydd trwy’r holl wlad.

50Ond yr Iwddewon a annogasant y gwragedd defosiynol, y rhai anrhydeddus, a phennaethiaid y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a bwriasant hwynt allan o’u terfynau;

51ond hwy, wedi ysgwyd ymaith lwch eu traed yn eu herbyn hwynt, a aethant i Iconium;

52a’r disgyblion a lanwyd o lawenydd ac o’r Yspryd Glân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help