1Psalm, Cân; i’r dydd Sabboth.
2Da (yw) moliannu Iehofah,
A chanu’r tannau i’th enw Di, O Oruchaf,
3Mynegi’r bore Dy drugaredd,
A’th ffyddlondeb y nosweithiau,
4A’r ddegtant, ac ar y nabl,
(Ac) i swn y delyn:
5Canys llawenychaist fi, O Iehofah, â’th waith,
Yngweithredoedd Dy ddwylaw y llawen-ganaf:
6—Mor fawr yw Dy weithredoedd, O Iehofah,
Tra dwfn yw Dy fwriadau!
7Gwr annoeth ni ddeall,
Ac yr ynfyd ni chenfydd, hyn!
8Pan flaguro’r annuwiolion fel llysieuyn,
Ac y blodeua holl weithredwyr anwiredd,
—I’w dinystrio hwynt am byth bythoedd (y mae hynny),
9Eithr Tydi (wyt) ddyrchafedig yn dragywydd, O Iehofah!—
10Canys, wele, Dy elynion, O Iehofah,
Canys, wele, Dy elynion a ddifethir,
Ymwasgar holl weithredwyr anwiredd;
11Ond dyrchefi fy nghorn i fel y bual,
Eneinnir fi âg olew îr,
12Ac fe sylla fy llygad ar fy nghynllwynwyr,
Ac am y drwg ymgodwyr i’m herbyn y clyw fy nghlustiau.
13Y cyfiawn, fel palmwydden, a flagura,
Fel cedrwydden ar Lebanon y cynnydda efe,
14Wedi eu plannu yn nhŷ Iehofah
Ynghynteddoedd ein Duw ni y blagurant,
15Etto y blaendarddant yn (eu) henaint,
Tirfion ac iraidd fyddant,
16I fynegi mai uniawn (yw) Iehofah,
Fy Nghraig, ac nad (oes) anghyfiawnder ynddo Ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.