1Yna yr attebodd Iöb a dywedodd,
2O gan bwyso na phwysid fy ngofid,
Ac na roddai un fy nhrychineb mewn cloriannau ynghŷd,
3Canys yn awr rhagor tywod y môr trwm yw!
O herwydd hynny fy ngeiriau oeddynt frysgar;
4Canys saethau’r Hollalluog (sydd) ynof,
Y rhai y mae eu llosgiad yn yfed fy yspryd;
Dychrynfäau Duw a ymfyddinasant i’m herbyn.
5 A rua asyn gwŷllt uwch ben glaswellt,
A frêf ŷch uwch ben ei borthiant?
6A fwytty dyn beth diflas heb halen?
A oes flas ar wỳn ŵy?
7Gwrthod cyffwrdd â (dim) y mae fy enaid,
Y (doluriau) hyn (sydd) fel ffieidd-dra i ’m bwyd:
8O na ddeuai fy nymuniad,
Ac na roddai Duw fy ngobaith,
9Ac na ryngai fodd i Dduw ac iddo Ef fy nryllio,
(A) gollwng yn rhydd Ei law, a’m torri ymaith,
10Fel y byddai i mi etto gysur,
Ac y gorfoleddwn yn y gofid sydd heb eiriach!
Canys nid ymwadais â geiriau y Sanctaidd.
11Beth (yw) fy nerth fel y gobeithiwn,
A pha beth fy niwedd fel yr estynwn fy amynedd?
12Ai nerth cerrig fy nerth i?
A (yw) fy nghnawd i yn bres?
13Onid diddym fy nghymmorth ynof fi,
Ac iachawdwriaeth a alltudiwyd oddi wrthyf?
14I’r nychedig, oddi wrth ei gyfaill, tosturi (a weddai),
Ac i’r hwn sy’n ymadael âg ofn yr Hollalluog;
15 Fy mrodyr i a fuant dwyllodrus fel afon;
Fel llifeiriant afonydd hwy a aethant heibio,
16Y rhai sy’n ddu gan yr îa,
Ac ynddynt yr ymguddiodd yr eira,
17Yn yr amser y cynhesant y maent yn darfod,
Pan wresogo (’r haul) y maent yn diflannu o’u lleoedd:
18 Y taith-finteioedd a dröant eu ffyrdd,
Hwy a esgynant i’r diffaethwch ac a drengant;
19Fe edrychodd taith-finteioedd Tema,
Cymdeithasau Sheba a ddisgwyliasant, am danynt;
20Hwy a gywilyddiasant am iddynt obeithio,
Hwy a ddaethant hyd atti ac a wladeiddiasant:
21Canys yn awr nid ydych chwi yn ddim,
Chwi a welsoch beth brawychus ac a ofnasoch.
22A fu i mi ddywedyd “Rhoddwch i mi,
Ac o’ch golud anrhegwch drosof,
23A gwaredwch fi o law’r gorthrymmydd,
Ac o law’r cedyrn rhyddhêwch fi?”
24Dangoswch i mi, a myfi a dawaf,
Ac ym mha beth y cyfeiliornais hyspyswch i mi.
25Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb!
Eithr pa beth a argyhoedda yr argyhoeddiad oddi wrthych?
26Ai argyhoeddi geiriau a amcenwch chwi?
— Gwỳnt (yw) geiriau y diobaith, —
27Yn ddïau, ar yr amddifad yr ydych yn rhuthro,
Ac yn cloddio (pwll) yn erbyn eich cyfaill.
28Ond yn awr bydded yn dda gennych, a throwch eich llygaid arnaf,
A cher bron eich gwyneb (bydded) os celwyddog wyf;
29Dychwelwch, attolwg; na fydded anwiredd;
Ië, dychwelwch, etto (y bydd) fy nghyfiawnder yn hynny.
30A oes yn fy nhafod anwiredd?
A ydyw taflod fy ngenau heb fedru canfod drygioni?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.