1Gwae ’r rhai sy’n deddfu deddfau anwiredd!
A’r ysgrifenyddion! blinder a ysgrifenasant hwy,
2I ymchwelyd y 2tlodion『1oddiwrth farn,』
Ac i ddwyn barn anghenogion Fy mhobl,
Fel y byddo gweddwon yn yspail iddynt,
Ac yr 2anrheithiont yr 1amddifaid.
3A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad?
Ac yn y distryw o bell a ddaw?
At bwy y ffowch am gynnorthwy?
A pha le y gadêwch eich golud?
4Hebof Fi y crymmant dan y carcharorion,
A than y rhai a laddwyd y syrthiant.
Er hyn oll ni ddychwelodd Ei lid Ef,
Ond etto (y mae) Ei law Ef yn estynedig.
5Ho! yr Assyriad, gwïalen Fy llid;
A’r ffon yn eu llaw hwynt (yw) Fy nigofaint.
6Yn erbyn cenedl ragrithiol yr anfonaf ef;
Ac yn erbyn pobl Fy nigter y rhoddaf orchymyn iddo,
I yspeilio yspail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth,
A’u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd.
7Ond yntau, nid felly yr amcana efe,
A’i galon nid felly y bwriada,
Eithr, difetha (sydd) yn ei galon,
A thorri ymaith genhedloedd nid ychydig.
8Canys efe a ddywed, onid (yw) fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd?
9Onid fel Carchemish (y mae) Calno?
Onid fel Arpad Hamath?
Onid fel Damascus Samaria?
10Fel yr ennillodd fy llaw deyrnasoedd yr eulunod,
Delwau cerfiedig y rhai (oedd) yn rhagori ar (ddelwau) Ierwshalem a Samaria;
11Onid, megis y gwneuthum i Samaria ac i’w heulunod,
Felly y gwnaf i Ierwshalem ac i’w delwau hithau?
12A bydd pan orpheno Iehofah Ei holl waith
Ym mynydd Tsïon ac yn Ierwshalem,
Yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon Brenhin Assyria
Ac â gogoniant uchder ei lygaid.
13Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw i y gwnaethum (hyn,)
A thrwy fy noethined i, o herwydd doeth ydwyf;
A mi a symmudais derfynau pobloedd,
A’u trysorau casgledig a yspeiliais,
Ac a fwriais i lawr y rhai cedyrn eu trigfa;
14A chafodd fy 2llaw gyfoeth y bobloedd『1fel nŷth:』
Ac megis un yn casglu wyau wedi eu gadaw
Yr holl ddaear a gesglais i:
Ac nid oedd a symmudai aden,
A agorai big, neu a glochdarai.
15A ymffrostia ’r fwyell yn erbyn yr hwn a gymmyno â hi?
A ymfawryga ’r llif yn erbyn yr hwn a’i tynno?
Megis ped ysgydwai ’r wialen y neb a’i cyfyd,
Megis pe dyrchafai ’r ffon (ei dyrchafydd yr hwn) nid (yw) bren.
16Am hynny y denfyn Iehofah, Arglwydd y lluoedd,
Ar ei freision ef gulni,
A than ei ogoniant ef y llysg Efe
Losgiad, megis llosgiad tân.
17A bydd Goleuni Israel yn dân,
A’i Sanct ef yn fflam,
A hi a lysg, ac a ysa ei ddrain ef
A’i fieri ef mewn un dydd.
18 A gogoniant ei goed ef a ’i ddoldir,
O’r enaid hyd y cnawd, a ysa hi;
A bydd efe fel un llesg yn llesmeirio.
19 A gweddill preniau ei goed ef rhifadwy a fydd,
A phlentyn a’u hysgrifena hwynt i lawr,
20A bydd yn y dydd hwnnw,
Na chwannega etto weddill Israel,
A’r diangcedig o dŷ Iacob,
Ymgynnal ar yr hwn a’u tarawodd,
Ond ymgynnaliant ar Iehofah, Sanct Israel, mewn gwirionedd.
21Gweddill a ddychwel, gweddill Iacob,
At y Duw cadarn:
22Canys er y bydd dy bobl di, Israel, fel tywod y môr,
Gweddill a ddychwel.
Dinystriad, yn 2llifeirio o 3gyfiawnder, a 1benderfynwyd,
23Canys dinystriad, a (hwnnw) yn benderfynedig,
Y mae Iehofah, Arglwydd y lluoedd, yn ei wneuthur ynghanol yr holl dir.
24Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd,
Nac ofna, Fy mhobl, yr hwn a breswyli yn Tsïon, rhag yr Assyriad;
 gwialen y’th dery di,
A’i ffon a gyfyd efe i’th erbyn,
Yn ol ffordd yr Aipht.
25Ond etto ychydig bach, ac fe a dderfydd llid,
A’m digofaint, yn eu dinystr hwy.
26Ac fe gyfyd『2
Iehofah y lluoedd』『1yn ei erbyn』ef ffrewyll,Megis tarawiad Midian ynghrâig Oreb,
Ac megis Ei wialen uwch ben y môr.
Ac Efe a’i cyfyd hi yn ol ffordd yr Aipht.
27A bydd yn y dydd hwnnw,
Y symmudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di,
A’i iau ef oddi ar dy war di,
A dryllir yr iau o herwydd (dy) frasder,
28 Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron,
Ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw;
29Daethant trwy’r bwlch, Geba sydd yn lletty iddynt,
Dychrynodd Ramah, Gibea Shawl a ffoes.
30Bloeddia â ’th lef, Merch Gàlim;
Gwrando hyd at Laish; atteb iddi, Anathoth.
31Mudodd Madmenah, trigolion Gebim a ymadawsant.
32Etto heddyw yn Nob y saif efe,
Yr ysgwyda efe ei law (yn erbyn) mynydd Merch Tsïon
Bryn Ierwshalem.
33 Wele, yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd,
Yn ysgythru ’r gangen wych â swn arswydus;
A’r rhai uchel o gorpholaeth a dorrir ymaith,
A’r rhai goruchel a ostyngir.
34Ac efe a dyr brysglwyni ’r coed â haiarn,
A Lebanon trwy un cryf a gwymp.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.