1 Gwnaed Fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn (am danaf,)
Cafwyd Fi gan y rhai nid oeddynt yn Fy ngheisio,
Dywedais Wele Fi, Wele Fi, wrth genhedlaeth na alwyd ar Fy enw.
2Lledais Fy nwylaw yr holl ddydd at bobl wrthryfelgar,
Y rhai a rodient ffordd nad (oedd) dda, yn ol eu meddyliau eu hun,
3Pobl y rhai a’m llidient I yn Fy wyneb beunydd
Gan aberthu mewn gerddi, a chan arogl-darthu ar briddfeini,
4Gan drigo mewn beddau, ac mewn ogofëydd y llettyant,
Gan fwytta cig moch, ac isgell (bwydydd) ffiaidd (yn) eu llestri,
5Gan ddywedyd Cadw attat dy hun, na nesâ attaf fi, canys sanctaidd wyf i ti.
Y rhai hyn (sydd) fwg yn Fy ffroenau, yn dân yn llosgi yr holl ddydd.
6Wele, ysgrifenedig (yw) ger Fy mron;
Ni thawaf, ond dïau Mi a dalaf,
Talaf i’w mynwes eich anwireddau chwi,
7Ac anwireddau eich tadau ynghŷd, medd Iehofah,
Y rhai a arogl-darthasant ar y mynyddoedd,
Ac ar y bryniau y’m cablasant,
A mesuraf eu gweithredoedd gynt i’w mynwes.
8 Fel hyn y dywed Iehofah,
Megis pan y ceir grawnwin (da) mewn swp,
Ac y dywaid (dyn) Na ddistrywia ef canys (y mae) bendith ynddo,
Felly y gwnaf er mwyn Fy ngweision gan beidio â distrywio ’r oll.
9Felly dygaf allan o Iacob hâd,
Ac o Iwdah etifeddwr Fy mynydd,
Ac fe etifedda Fy etholedigion ef,
A’m gweision a drigant yno.
10A bydd Sharon yn gorlan defaid,
A dyffryn Achor yn orweddfa gwartheg,
I’m pobl y rhai a’m ceisiasant.
11Ond chwychwi (sy) ’n ymadael â Iehofah,
Yn anghofio mynydd Fy sancteiddrwydd,
Yn gosod allan i Gad fwrdd,
Ac yn llenwi i Meini ddiod-offrwm;
12Rhifaf chwithau i’r cleddyf,
A chwi oll i’r lladdedigaeth a ymgrymmwch,
O herwydd i Mi alw ac nid attebasoch,
I Mi lefaru ac ni wrandawsoch,
Ond gwneuthur o honoch yr (hyn sydd) ddrwg yn Fy ngolwg,
A’r hyn nid ymhyfrydais ynddo a ddewisasoch.
13Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Iehofah,
Wele, Fy ngweision a fwyttânt a chwithau a newynwch,
Wele, Fy ngweision a yfant a chwithau a sychedwch,
Wele, Fy ngweision a lawenychant a chwithau a gywilyddir,
14Wele, Fy ngweision a lawen-ganant gan hyfrydwch calon,
A chwithau a waeddwch gan ofid calon,
A chan ddrylliad yspryd yr udwch,
15A chewch adael eich enw yn felldith i’m hetholedigion;
Ac y lladd yr 2Arglwydd 3
Iehofah 1chwi,Ond ar Ei weision y geilw Efe enw newydd.
16 Yr hwn a ymfendigo ar y ddaear
A ymfendiga yn Nuw gwirionedd,
A’r hwn a dyngo ar y ddaear
A dwng i Dduw gwirionedd,
O herwydd anghofio y cyfyngderau gynt,
Ac o herwydd eu cuddio hwynt o’m golwg.
17Canys wele Fi yn crëu nefoedd newydd a daear newydd,
Ac ni chofir y rhai cyntaf,
Ac nid esgynant hwy i’r galon.
18Eithr llawenychwch a gorfoleddwch
Byth bythoedd yn yr hyn (yr wyf) Fi yn ei grëu,
Canys Wele Fi yn crëu Ierwshalem yn orfoledd,
A’i phobl yn llawenydd.
19A gorfoleddaf yn Ierwshalem, a llawenychaf yn Fy mhobl,
Ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain a llais gwaedd.
20Ni bydd yno mwyach blentyn (ychydig) ei ddyddiau;
Neu henafgwr yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau,
Canys “Y Llangc” (y gelwir) yr hwn yn fab canmlwydd a fydd marw,
A’r pechadur (yn marw) yn fab canmlwydd a fydd melldigedig.
21A hwy a adeiladant dai ac a drigant ynddynt,
A phlannant winllanoedd a bwyttânt eu ffrwyth;
22Nid adeiladant hwy ac arall a drig,
Ni phlannant ac arall a fwytty,
Canys megis dyddiau ’r pren (y bydd) dyddiau Fy mhobl,
A gwaith eu dwylaw a ddarfyddant o henaint.
23Fy etholedigion ni chânt lafurio yn ofer
Na chenhedlu i ddistryw buan,
Canys hâd bendigedig gan Iehofah (a fyddant) hwy
A’u heppil gyda hwynt.
24A bydd cyn galw o honynt Myfi a attebaf,
2Hwy 1etto yn llefaru Myfi a wrandawaf.
25Y blaidd a’r oen a borant ynghŷd,
A’r llew, fel ŷch, a bawr wellt;
Ond y sarph, llwch a fydd ei bwydd hi;
Ni ddrygant, ac ni ddinystriant,
Yn holl fynydd Fy sancteiddrwydd,
Medd Iehofah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.