Iöb 35 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXV.

1Yna yr attebodd Elihw, a dywedodd,

2Ai hyn a fernaist ti yn iawn,

(Sef) dywedyd o honot “Mwy fy nghyfiawnder i na’r eiddo Duw?”

3 uchel i ti;

6Os pechi, pa beth a weithredi di iddo Ef?

Ac (os) aml fydd dy gamweddau, pa beth a wnei di Iddo?

7Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt ti yn ei roddi iddo Ef,

A pha beth y mae Efe yn ei gael ar dy law di?

8I ddyn, fel ti dy hun (y mae) dy gamwedd,

Ac i fab daearolyn dy gyfiawnder;

9O herwydd amldra gorthrymder y maent yn llefain,

Bloeddio y maent o herwydd braich y cedyrn,

10Ac ni ddywaid dyn “Pa le y mae Duw fy Ngwneuthurwr,

Yr Hwn sy’n rhoddi caniadau yn y nos,

11Yr Hwn a’n dysgodd ni rhagor bwystfilod y ddaear,

A rhagor ehediaid y nefoedd a’n gwnaeth ni yn ddoethion?”

12 Yna, llefain y maent hwy — ond nid erglyw Efe —

Rhag traha y rhai drwg:

13 Dïau, ar wagedd ni wrendy Duw,

A’r Hollalluog nid ardrema arno.

14 Ond yn awr am “na ofwyodd Ei lid Ef,”

Ac “nad yw Efe yn sylwi ar gamwedd yn ddirfawr,”

16Gan hynny, Iöb mewn oferedd a ledodd ei safn,

Heb wybodaeth yr amlhäodd efe ymadroddion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help