S. Ioan 14 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Na chynhyrfer eich calon chwi. Credu yr ydych yn Nuw; ac Ynof Finnau hefyd credwch.

2Yn nhy Fy Nhad trigfannau lawer sydd; a phe amgen, dywedaswn i chwi, canys myned yr wyf i barottoi lle i chwi.

3Ac os af a pharottoi i chwi le, trachefn y deuaf a chymmeraf chwi Attaf Fy hun, fel lle yr wyf Fi, y bo i chwithau hefyd fod.

4Ac i ba le yr wyf Fi yn cilio, gwyddoch y ffordd.

5Dywedyd Wrtho a wnaeth Thomas, Arglwydd, nis gwyddom i ba le yr wyt yn cilio.

6Pa fodd y gwyddom y ffordd? Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Myfi wyf y ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd; nid oes neb yn dyfod at y Tad, oddieithr trwof Fi.

7Ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech.

8O hyn allan yr adwaenoch Ef, a gwelsoch Ef. Dywedyd Wrtho a wnaeth Philip, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.

9Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Ai cyhyd o amser yr wyf gyda chwi, ac nid adnabuost Fi, Philip? Yr hwn a’m gwelodd I a welodd y Tad. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, “Dangos i ni y Tad?”

10Oni chredi Fy mod I yn y Tad, a’r Tad Ynof Finnau? Yr ymadroddion y rhai yr wyf Fi yn eu llefaru wrthych, nid o Honof Fy hun yr wyf yn eu llefaru, ond y Tad y sy’n aros Ynof Fi sy’n gwneuthur Ei weithredoedd.

11Credwch Fi Fy mod I yn y Tad, ac y Tad Ynof Finnau: ac onite, o achos y gweithredoedd eu hunain credwch Fi.

12Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn sy’n credu Ynof, y gweithredoedd y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur, hwnw hefyd a’u gwna, ac rhai mwy na’r rhai hyn a wna efe, gan mai at y Tad yr wyf Fi yn myned.

13A pha beth bynnag a ofynoch yn Fy enw, hyny a wnaf, fel y gogonedder y Tad yn y Mab.

14Os gofynwch i Mi ryw beth yn Fy enw, hyny a wnaf.

15Os caru Fi yr ydych, Fy ngorchymynion a gedwch,

16ac Myfi a ofynaf i’r Tad, a Diddanydd arall a rydd Efe i chwi,

17fel y bo gyda chwi yn dragywydd, sef Yspryd y gwirionedd, yr Hwn ni all y byd Ei dderbyn am na wel Ef, ac nad adwaen efe Ef. Chwi a’i hadwaenoch Ef, gan mai gyda chwi y mae yn aros, ac ynoch y bydd.

18Nis gadawaf chwi yn amddifaid: deuaf attoch.

19Etto ennyd bach, a’r byd nid yw mwyach yn Fy ngweled, ond chwi a’m gwelwch. Oherwydd Fy mod I yn fyw, chwithau hefyd fyddwch fyw.

20Yn y dydd hwnw y gwybyddwch chwi Fy mod I yn y Tad, a chwithau Ynof Fi, ac Myfi ynoch chwi.

21Yr hwn sydd a’m gorchymynion ganddo, ac yn eu cadw, hwnw yw’r hwn sydd yn Fy ngharu; a’r hwn a’m câr, a gerir gan Fy Nhad; ac Myfi a’i caraf ef, ac egluraf Fy hun iddo.

22Dywedyd Wrtho a wnaeth Iwdas (nid yr Ishcariot), Arglwydd, pa beth yw’r achos mai i nyni yr wyt ar fedr egluro Dy hun, ac nid i’r byd?

23Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Os neb a’m câr, Fy ngair a geidw efe; ac Fy Nhad a’i câr ef; ac atto y deuwn, a thrigfa gydag ef a wnawn.

24Yr hwn nad yw yn Fy ngharu, Fy ngeiriau ni cheidw; ac y gair a glywch nid yw Fy eiddo I, eithr eiddo y Tad yr Hwn a’m danfonodd.

25Y pethau hyn a leferais wrthych, tra gyda chwi yr wyf yn aros;

26ond y Diddanydd, yr Yspryd Glân, yr Hwn a ddenfyn y Tad yn Fy enw, Efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg i’ch cof yr holl bethau a ddywedais wrthych.

27Tangnefedd yr wyf yn ei adael i chwi; Fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi; nid fel y mae’r byd yn rhoddi, yr wyf Fi yn rhoddi i chwi. Na chynhyrfer eich calon, ac nad ofned.

28Clywsoch, canys Myfi a ddywedais wrthych, “Ciliaf, a deuaf attoch.” Pe carech Fi, llawenychech oherwydd myned o Honof at y Tad; canys y Tad, mwy na Myfi yw.

29Ac yr awr hon y dywedais wrthych cyn na ddigwydd, fel pan ddigwyddo, y credoch.

30Nid llawer peth mwyach a lefaraf gyda chwi, canys dyfod y mae llywodraethwr y byd, ac Ynof Fi nid oes iddo ddim:

31eithr fel y gwypo’r byd Fy mod yn caru y Tad, ac fel y gorchymynodd y Tad i Mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help