1Ofnwn, gan hyny, rhag ysgatfydd, tra aros y mae addewid o fyned i mewn i’w orphwysfa Ef, ymddangos o neb o honoch i fod ar ol;
2canys yr ydym a’r newyddion da genym fel hwythau; eithr ni leshaodd y gair a glybuwyd, iddynt hwy heb eu cyd-gymmysgu mewn ffydd â’r rhai a’i clywsant:
3canys myned i mewn i’r “Orphwysfa” yr ydym ni y rhai a gredasom, fel y dywedodd Efe,
“Fel y tyngais yn Fy llid,
Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa,”
ac er hyny y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er’s seiliad y byd;
4canys dywedodd mewn rhyw fan am y seithfed dydd fel hyn, “A gorphwysodd Duw ar y seithfed dydd oddiwrth Ei holl weithredoedd,”
5ac yn y fan hon trachefn
“Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa.”
6Gan hyny, gan fod etto yn ol fod rhai i fyned i mewn iddi, ac na fu i’r rhai a gawsant y newyddion da o’r blaen,
7fyned i mewn o herwydd anufudd-dod, trachefn y penna Efe ryw ddydd, gan ddywedyd, “Heddyw,” yn Dafydd, ar ol cymmaint o amser, fel y rhag-ddywedwyd,
“Heddyw, os Ei lais a glywoch,
Na chaledwch eich calonnau;”
8canys ped iddynt hwy y rhoddasai Iehoshua orphwysfa,
9ni lefarasai ar ol hyny am ddydd arall: gan hyny, y mae etto yn ol orphwysdra i bobl Dduw.
10Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orphwysfa Ef, efe hefyd a orphwysodd oddiwrth ei weithredoedd, fel oddiwrth yr Eiddo Ef y gwnaeth Duw.
11Byddwn ddyfal, gan hyny, i fyned i mewn i’r orphwysfa honno, fel na bo i neb syrthio yn ol yr un siampl o anghrediniaeth;
12canys byw yw gair Duw, a gwneuthurol, a llymmach nag un cleddyf dau-finiog, ac yn myned trwodd hyd wahaniad enaid ac yspryd, a chymmalau a mer, ac yn medru barnu meddyliau a bwriadau y galon;
13ac nid oes creadur yn anamlwg yn Ei olwg Ef, ond pob peth sydd yn noeth ac yn agored i lygaid yr Hwn y mae genym a wnelom ag Ef.
14Gan fod genym, gan hyny, Arch-offeiriad mawr, yr Hwn a aeth trwy’r nefoedd, Iesu Mab Duw, daliwn yn
15dỳn ein cyffes, canys nid oes i ni Arch-offeiriad heb fedru cyd-ymdeimlo â’n gwendidau, ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud a ni, etto heb bechod.
16Nesawn, gan hyny, gydag hyfdra at orsedd-faingc gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymmorth mewn amser.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.