Iöb 39 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXIX.

1A wyddost ti ’r amser llydnu i eifr gwŷlltion y creigiau;

A’r bwrw llo gan yr ewigod, a wyli di (ef)?

2A gyfrifi di’r misoedd a gyflawnant hwy?

Ac a wyddost ti ’r amser iddynt lydnu?

3Hwy a ymgrymmant, a’u llydnod a fwriant hwy,

Eu gwewyr a ollyngant hwy ymaith;

4Fe gryfhâ eu llydnod, cynnyddant yn y maes,

Ant allan ac ni ddychwelant attynt hwy.

5Pwy a ollyngodd yr asyn gwŷllt yn rhydd,

A rhwymau ’r ffoadur (hwn) pwy a’u dattododd?

6Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo,

A’r diffaethwch yn drigfa iddo;

7Efe a chwardd am ben trwst y ddinas,

Llefain y gyrrwr ni chlyw efe;

8Efe a dremia ar y mynyddoedd, ei borfa,

Ac am bob gwyrddlesni y chwilia efe.

9A ymfoddlona ’r bual i’th wasanaethu di?

A lettya efe wrth dy breseb?

10 A rwymi di ’r bual yn rhych ei dîd?

A lyfna efe ’r dyffrynoedd yn ol (dy orchymyn) di?

11A ymddiriedi di wrtho am mai mawr (yw) ei nerth,

A gadael arno ef dy lafur blin?

12A goch di ef, y dychwel efe dy hâd (adref),

Ac i’th lawr dyrnu y casgl efe ef?

13 Aden yr estrys a ymorfoledda!

Ai aden aderyn caruaidd (yw) — ac ei blu ef?

14(Nage), canys hi a âd ei hwyau ar y ddaear,

Ac ar y llwch y cynhesa hi hwynt,

15Ac yr anghofia fod troed yn eu dryllio,

Ac anifail y maes yn eu sathru hwynt,

16Gan fod yn galed wrth ei chywion, fel nid ei heiddi hi;

Ofer (yw) ei llafur hi, heb ofn (am danynt);

17Canys Duw a barodd iddi ollwng doethineb dros gof,

Ac ni chyfrannodd iddi ddeall;

18A phan wedi ei chodi yr ymwthio hi ym mlaen,

Hi a chwardd ar ben y march a’i farchog.

19A roddaist ti i’r march gryfdwr?

A wisgaist ti ei fwnnwgl ef â chrynfa?

20A wnei di iddo lammu fel ceiliog rhedyn?

— Ardderchowgrwydd (yw) ei chwyrniad ef — dychryn (yw):

21Cloddio yn y dyffryn a wna (ei draed), ac efe a lawenycha yn (ei) nerth,

Efe a â allan i gyfarfod yr arfau;

22Efe a chwardd ar ben arswyd, ac ni ddychryna,

Ac ni ddychwel rhag wyneb y cleddyf;

23Yn ei erbyn ef y seinia saethau,

Fflam y waywffon a’r biccell;

24Gan lammu ac ymgynhyrfu y cipia efe ’r ddaear;

Ni saif yn llonydd, canys sain yr udgorn (sydd);

25Ar bob sain yr udgorn fe ddywaid efe “Chwei;”

Ac o hirbell yr arogla efe ’r rhyfel,

Taran y tywysogion, ac y twrf.

26 Ai trwy dy ddeall di yr ymesgyn y gwalch,

Y lleda efe ei adenydd am y dehau?

27Ai wrth dy air di, yr ymddyrchafa ’r fwltur,

Ac yn yr uchelder y gwna efe ei nyth?

28Yn y graig y trig ac yr ymlettya efe,

Ar ysgythredd y graig, a’r uchelfa;

29Oddi yno y chwilia efe am fwyd,

Ac hyd bellder yr edrych ei lygaid;

30Ac (yno) ei gywion a sugnant waed,

A’r lle (y bo) trangcedigion — yno yntau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help