1Molwch Iah!
Molwch Dduw yn Ei gyssegr,
Molwch Ef yn Ei ffurfafen ardderchog!
2Molwch Ef am Ei gadarn weithredoedd,
Molwch Ef yn ol amlder Ei fawredd!
3Molwch Ef â bloedd udgorn,
Molwch Ef â nabl ac â thelyn,
4Molwch Ef â thympan ac â dawns,
Molwch Ef â thannau ac â symphon,
5Molwch Ef â symbalau seiniawg,
Molwch Ef â symbalau llafar!
6Pob anadl, moled Iah!
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.