Ephesiaid 6 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd, canys hyn sydd gyfiawn.

2“Anrhydedda dy dad a’th fam,” (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf gydag addewid,)

3“fel y bo’n dda i ti, ac y byddech hir-hoedlog ar y ddaear.”

4Ac y tadau, nac ennynwch eich plant i ddigio; eithr maethwch hwynt yng yngherydd a chynghor yr Arglwydd.

5Y gweision ufuddhewch i’ch meistriaid yn ol y cnawd gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, fel i Grist;

6nid â llygad-wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr fel gweision Crist,

7yn gwneuthur ewyllys Duw o’r enaid; yn gwasanaethu gydag ewyllys da, fel i’r Arglwydd, ac nid i ddynion,

8gan wybod mai pa beth bynnag sy dda a wnelo pob un, hyny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd.

9Ac y meistriaid, yr un pethau gwnewch tuag attynt hwy, gan roddi heibio fygwth, gan wybod fod eich meistr chwi a hwythau yn y nefoedd, a derbyn gwyneb nid oes gydag Ef.

10Yn ddiweddaf, byddwch gryfion yn yr Arglwydd ac ynghadernid Ei allu.

11Gwisgwch lwyr-arfogaeth Duw fel y galloch sefyll yn erbyn dichellion diafol,

12canys nid oes i ni ein hymaflyd codwm yn erbyn gwaed a chnawd, eithr yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwyr y tywyllwch hwn, yn erbyn y lluoedd ysprydol drwg yn y nefolion leoedd.

13O achos hyn cymmerwch i fynu lwyr-arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg;

14ac wedi gwneuthur pob peth, sefyll. Sefwch, gan hyny, wedi amgylch-wregysu eich lwynau â gwirionedd,

15ac wedi rhoddi am danoch ddwyfroneg cyfiawnder, ac wedi gwisgo am eich traed esgidiau parottoad efengyl tangnefedd;

16ac ynghyda’r cwbl gan gymmeryd i fynu darian ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd y fall.

17A helm iachawdwriaeth cymmerwch, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw Gair Duw;

18gyda phob gweddi a deisyfiad, yn gweddïo bob amser yn yr Yspryd, ac yn gwylied ar hyn ei hun ymhob dyfal-bara, a deisyfiad am yr holl saint,

19a throsof fi, fel i mi y rhodder ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau gydag hyfdra, i hyspysu dirgelwch yr efengyl,

20dros yr hwn yr wyf yn gennad mewn cadwyn, fel ynddo y traethwyf gydag hyfdra, fel y dylwn lefaru.

21Ond fel y gwypoch chwi hefyd fy matterion, pa wedd y mae gyda mi, hyspysa Tuchicus y cwbl i chwi, y brawd anwyl a’r gweinidog ffyddlawn yn yr Arglwydd,

22yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn ei hun, fel y gwypoch ein helynt, ac y diddanai eich calonnau.

23Tangnefedd i’r brodyr, a chariad ynghyda ffydd oddiwrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.

24Gras fyddo gyda phawb sy’n caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anllygredigaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help