1I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd.
2O ddedwyddwch y neb a ystyrio’r llesg;
Yn nydd drygfyd, diangc a rydd Iehofah iddo,
3Iehofah a’i ceidw ac a’i bywhâ; gwynfydedig fydd ar y ddaear;
—Ac na ddyro Di ef i ewyllys ei elynion!
4Iehofah a’i cynnal ar wely llesgedd,
Ei holl orweddfa a newidi Di yn ei glefyd.
5 Myfi a ddywedais, “O Iehofah bydd raslawn wrthyf,
Iachâ fi, canys pechais yn Dy erbyn”;
6Fy ngelynion a lefarant ddrwg am danaf, (sef)
“Pa bryd y trenga efe ac y derfydd am ei enw?”
7Ac os daw i’m hedrych, ffalsder a lefara efe,
(Ond) ei galon a gasgl iddi ei hun drychineb,
Aiff allan (ac a’i) hadrodda;
8Ynghŷd, yn fy erbyn, yr hustynga fy holl gaseion,
Yn fy erbyn y dychymygant ddrwg i mi, (sef)
9“Peth dinystriol a dywalltwyd arno,
A’r hwn sy’n gorwedd ni chwannega godi;”
10Hyd yn oed y gwr mewn cyfeillach â mi,—yr hwn yr ymhyderwn ynddo,—
Yr hwn a fwyttâai fy mara,—a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn:
11Eithr Tydi, O Iehofah,—bydd raslawn wrthyf, a phar i mi godi,
Fel y talwyf iddynt hwy!
12Wrth hyn y câf wybod ymhyfrydu o Honot ynof,
Am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn.
13A myfi,—yn fy niniweidrwydd y’m cynheliaist,
Ac y’m gosodaist ger Dy fron yn dragywydd.
14Bendigedig (fo) Iehofah, Duw Israel,
O dragywyddoldeb a hyd dragywyddoldeb;
Amen ac Amen!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.