S. Marc 15 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac yn uniawn, yn y bore, wedi ffurfio cynghor, yr archoffeiriaid ynghyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, ac yr holl gynghor, wedi rhwymo’r Iesu, a ddygasant Ef ymaith, ac a’i traddodasant at Pilat.

2A gofynodd Pilat Iddo, Ai Tydi Brenhin yr Iwddewon? Ac Efe, gan atteb iddo, a ddywedodd, Tydi a ddywedaist.

3A chyhuddodd yr archoffeiriaid Ef o lawer o bethau.

4A Pilat trachefn a ofynodd Iddo, gan ddywedyd, Onid attebi ddim o gwbl? Wele, pa faint o gyhuddiadau a ddygant yn Dy erbyn.

5A’r Iesu nid attebodd ddim, ddim mwyach, fel y rhyfeddodd Pilat.

Ac ar yr wyl gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynent iddo.

6Ac yr oedd yr hwn a elwid Barabba yn rhwym ynghyda’i gyd-derfysgwyr,

7y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.

8Ac wedi myned i fynu, y dyrfa a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel yr arferai wneuthur iddynt.

9A Pilat a attebodd iddynt, gan ddywedyd, A ewyllysiwch chwi ollwng o honof yn rhydd i chwi Frenhin yr Iwddewon?

10canys gwyddai mai o genfigen y traddodasai yr archoffeiriaid Ef.

11A’r archoffeiriaid a gynhyrfasant y bobl, fel yn hytrach y gollyngai Barabba yn rhydd iddynt.

12A Pilat trachefn, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Pa beth, gan hyny a wnaf i’r Hwn a alwch “Brenhin yr Iwddewon?”

13A hwy trachefn a waeddasant, Croes-hoelia Ef.

14A Pilat a ddywedodd wrthynt, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a waeddasant heb fesur, Croes-hoelia Ef.

15A Pilat, yn foddlon i ddigoni’r dyrfa, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabba, a thraddododd yr Iesu, wedi Ei fflangellu Ef, i’w groes-hoelio.

16A’r milwyr a’i dygasant Ef ymaith i fewn y cwrt, yr hwn yw Pretorium, a galwasant ynghyd yr holl fyddin;

17a rhoisant am Dano borphor, a dodasant am Ei ben Ef, ar ol ei phlethu, goron o ddrain;

18a dechreuasant gyfarch Iddo, Hanffych well, Frenhin yr Iuddewon;

19a churasant Ei ben Ef â chorsen; a phoerasant Arno; a chan benlinio, ymgrymmasant Iddo.

20A phan watwarasant Ef, tynnasant oddi am Dano y porphor, a rhoisant am Dano Ei ddillad Ei hun; a dygasant Ef allan fel y croes-hoelient Ef.

21A chymhellasant ryw un oedd yn myned heibio, Shimon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, tad Alecsander a Rwphus, i ddwyn Ei groes Ef.

22A daethant ag Ef i’r lle Golgotha, yr hwn yw o’i gyfieithu, Lle’r Benglog.

23A rhoisant Iddo win myrllyd; ond Efe nis cymmerth.

24A chroes-hoeliasant Ef, a rhannasant Ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt, pa beth a pha bwy a gai.

25Ac yr oedd hi y drydedd awr pan groes-hoeliasant Ef.

26Ac yr oedd ysgrifen Ei gyhuddiad wedi ei hysgrifenu,

Brenhin yr Iwddewon.

27Ac ynghydag Ef y croes-hoeliasant ddau leidr, un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy Iddo.

29A’r rhai yn myned heibio a’i cablasant Ef, gan siglo eu pennau, a dywedyd, Och, yr Hwn wyt yn chwalu’r deml, ac yn adeiladu mewn tridiau;

30gwared Dy Hun, gan ddyfod i lawr oddiar y groes.

31Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar yn eu plith eu hunain ynghyda’r ysgrifenyddion, a ddywedasant, Eraill a waredodd, Ef Ei Hun ni all Ei waredu:

32Y Crist, Brenhin Israel, disgyned yn awr oddiar y groes, fel y gwelom ac y credom. Ac y rhai yn cael eu croes-hoelio gydag Ef a’i gwaradwyddent!

33A phan yr oedd hi y chweched awr, tywyllwch fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

34Ac ar y nawfed awr llefodd yr Iesu â llef fawr,

Eloi, Eloi, lama shabacthani?

35yr hwn yw o’i gyfieithu, Fy Nuw, Fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, wedi clywed, a ddywedasant, Wele, ar Elias y geilw.

36A chan redeg o ryw un, a llenwi yspwng o finegr, ac ei ddodi am gorsen, diododd Ef, gan ddywedyd, Gadewch; gwelwn a ddaw Elias i’w dynnu Ef i lawr.

37A’r Iesu, gan ddanfon allan lef fawr, a drengodd.

38A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared.

39A chan weled o’r canwriad a oedd yn sefyll gerllaw, gyferbyn ag Ef, mai felly y trengodd, dywedodd, Yn wir, y Dyn Hwn, Mab ydoedd i Dduw.

40Ac yr oedd hefyd wragedd o hirbell, yn edrych, ymhlith y rhai yr oedd hefyd Mair Magdalen a Mair mam Iago fychan ac Iose,

41a Shalome, y rhai, pan oedd Efe yn Galilea, a’i canlynent Ef, ac a weinient Iddo; ac eraill lawer, y rhai a aethant i fynu gydag Ef i Ierwshalem.

42Ac yn awr, yr hwyr wedi dyfod, gan ei fod Y Parottoad,

43yr hwn yw’r dydd o flaen y Sabbath, wedi dyfod o Ioseph o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn hefyd oedd yn disgwyl am deyrnas Dduw, wedi cymmeryd hyder yr aeth i mewn at Pilat, a deisyfiodd gorph yr Iesu.

44A Pilat a ryfeddodd a fu Efe eisoes farw; ac wedi galw atto y canwriad, gofynodd iddo a oedd Efe wedi marw er ys meityn;

45a phan wybu gan y canwriad, rhoddes y corph i Ioseph.

46Ac wedi prynu o hono liain main, a’i dynu Ef i lawr, amdôdd Ioseph Ef yn y lliain main, a dododd Ef mewn bedd a naddasid o’r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd.

47A Mair Magdalen a Mair mam Iose a welsant pa le y dodid Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help