1Pwy a gredodd i’n hymadrodd?
A braich Iehofah, i bwy y datguddiwyd hi?
2Canys efe a dŷf fel blaguryn o’i flaen Ef,
Ac fel gwreiddyn o dir sych.
Nid oes pryd iddo, na thegwch fel y syllem arno,
Ac nid oes gwynebpryd fel y dymunem ef.
3Dirmygwyd ef, a diystyrwyd gan ddynion,
Gwr gofidiau, a chynnefin â dolur;
Ac megis un yn cuddio ei wyneb oddi wrthym
Dirmygwyd ef, ac ni wnaethom gyfrif o hono.
4Dïau, ein gwendidau efe a gymmerth,
A’n doluriau efe a’u dug,
Etto nyni a’i cyfrifasom ef wedi ei bläu,
Ei daro gan Dduw, a’i gystuddio.
5Ond efe a drywanwyd am ein camweddau ni,
Efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni,
Cerydd ein heddychiad ni (oedd) arno ef,
A thrwy ei gleisiau ef yr iachâwyd nyni.
6Nyni oll, fel defaid, a grwydrasom,
Pawb i’w ffordd ei hun y troisom,
A gwnaeth Iehofah i ruthro arno ef
Ein hanwiredd ni i gyd.
7Efe a orthrymmwyd, ac efe a gystuddiwyd,
Ond nid agorai ei enau;
Fel oen i’r lladdfa yr arweinir ef;
Ac fel dafad o flaen ei chneifiwŷr yn tewi,
Felly nid agorai yntau ei enau.
8Trwy ormes a barn y dygpwyd ef ymaith;
A’i fuchedd ef pwy a fynega?
Canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw,
Am gamwedd Fy mhobl (yr oedd) pla arno.
9A 『2chyda’r rhai anwir』 1pennodwyd ei fedd,
Ond gyda’r cyfoethog (y mae) ei gladdfa;
Canys cam nis gwnaeth,
Ac nid (oedd) twyll yn ei enau.
10Ond Iehofah a ewyllysiodd ei ddryllio ef, Efe a ’i clwyfodd (gan ddywedyd)
Os dodir 『2ei enaid ef』 yn 『1aberth dros bechod,』
Efe a wêl (ei) hâd, efe a estyn (ei) ddyddiau,
Ac ewyllys Iehofah yn ei law ef a lwydda:
11O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir,
Trwy ei wybodaeth y cyfiawnhâ Fy nghyfiawn was laweroedd,
Canys eu hanwireddau hwynt efe a ddwg.
12Am hynny y rhannaf iddo ran gyda ’r mawrion,
A chyda ’r cedyrn efe a ranna ’r yspail,
Am iddo dywallt 『2ei enaid』 i 1farwolaeth, a chyda ’r troseddwŷr ei gyfrif,
Ac iddo ddwyn pechodau llaweroedd, a thros y troseddwŷr eirioli.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.