1Cân y graddau.
O’r dyfnderau y gelwais Arnat, O Iehofah!
2O Arglwydd, clyw fy llef,
Bydded Dy glustiau yn ystyried wrth lef fy ymbiliau!
3Os anwireddau a Ond gyda Thi (y mae) maddeuant,
Fel y’th ofner!
5Disgwyliais wrth Iehofah,—disgwyliodd fy enaid,
Ac yn Ei air Ef y gobeithiais;
6Fy enaid (a ddisgwyl) wrth Iehofah,
Yn fwy na’r gwylwyr am y bore,—(na)’r gwylwyr am y bore!
7Gobeithied Israel yn Iehofah,
Canys gyda Iehofah (y mae) trugaredd,
Ac yn ehelaeth gydag Ef (y mae) ymwared;
8Ac Efe a weryd Israel
Oddi wrth ei holl anwireddau!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.