1 yr ymadrodd ynghylch yr aipht.
Wele Iehofah yn marchogaeth
Ar gwmmwl cyflym, ac yn dyfod i’r Aipht;
A chynhyrfir eulunod yr Aipht o’i flaen Ef,
A chalon yr Aipht a dawdd yn ei chanol.
2Arfogaf hefyd Aiphtiaid yn erbyn Aiphtiaid,
A hwy a ymladdant, dyn yn erbyn ei frawd, a dyn yn erbyn ei gymhar,
Dinas yn erbyn dinas, teyrnas yn erbyn teyrnas.
3Ac fe balla yspryd yr Aipht yn ei chanol,
A’i chyngor hi Mi a lyngcaf,
A hwy a ymofynant â’r eulunod, ac â’r swynyddion,
Ac â’r dewiniaid, ac â’r brudwŷr.
4A Mi a gauaf yr Aipht yn llaw arglwyddi caled,
A brenhin cadarn a lywodraetha arnynt,
Medd yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd.
5Ac e dderfydd y dyfroedd o’r môr,
A’r afon a aiff yn hesp ac yn sech.
6Ac e bydra ’r afonydd,
Dyhysbyddir a sycha ’r dyfroedd argaëedig,
Y gorsen a’r hesgen a wywant.
7Y ddoldir wrth yr afon, ar fin yr afon,
A phob peth a hauwyd wrth yr afon,
A wywa, a chwelir, ac ni bydd (mwy).
8Ac e dristhâ r pysgodwŷr, a galarant;
Y rhai oll sy’n bwrw 2bach 『1i’r afon,』
A’r rhai a daenant rwydau ar hŷd wyneb y dyfroedd, a lesgânt:
9A gwaradwyddir y rhai a weithiant feinllin,
A’r rhai a weuant rwydwaith.
10 A bydd colofnau ei (phobl) yn gystuddiedig,
A’r holl weithwŷr cyflog yn drist (eu) henaid.
11Dïau, ynfydion yw tywysogion Tsoan;
Doeth gynghorwŷr Pharaoh, eu cyngor a aeth yn fwystfilaidd.
Pa fodd y dywedwch wrth Pharaoh,
Mab y doethion (ydwyf) fi, mab brenhinoedd y dyddiau gynt?
12Pa le (y mae) hwynt? pa le (y mae) dy ddoethion?
A mynegent hwy yn awr wrthyt, ac hyspysent,
Pa beth a gyngorodd Iehofah y lluoedd yn erbyn yr Aipht.
13Ynfydodd tywysogion Tsoan, twyllwyd tywysogion Noph;
Cyfeiliornad yr Aipht a beris pennaethiaid ei llwythau;
14 Iehofah a gymmysgodd yn ei chanol yspryd syfrdandod,
A hwy a wnaethant i’r Aipht gyfeiliorni yn ei holl waith,
Fel y cyfeiliorna meddwŷn yn ei chwydfa.
15Ac ni bydd i’r Aipht waith
Yr hwn a wnelo ’r pen neu’r gloren, y gangen neu’r frwynen.
16Yn y dydd hwnnw y bydd yr Aiphtiaid fel gwragedd,
Canys hwy a ddychrynant ac a ofnant rhag ysgydwad llaw Iehofah y lluoedd,
Yr hon (y bydd) Efe yn ysgwyd uwch eu pennau.
17 Ac y bydd tir Iwdah i’r Aiphtiaid yn arswyd,
Pwy bynnag a wnelo adgoffâd o honaw, hwy a ofnant,
O herwydd cyngor Iehofah y lluoedd
Yr hwn a gyngorodd Efe yn eu herbyn.
18Yn y dydd hwnnw y bydd pum’ dinas yn nhir yr Aipht
Yn llefaru iaith Canaan,
Ac yn tyngu i Iehofah y lluoedd;
“Dinas distryw” y gelwir un.
19Yn y dydd hwnnw y bydd allor i Iehofah
Ynghanol tir yr Aipht,
A cholofn i Iehofah ger llaw ei therfyn hi,
20Ac y bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth
I Iehofah y lluoedd yn nhir yr Aipht,
Am iddynt hwy lefain ar Iehofah o herwydd y gorthrymmwŷr,
Ac iddo yntau ddanfon iddynt iachawdwr a dialydd, a’u gwared hwynt.
21Ac adweinir Iehofah gan yr Aipht,
Ac edwyn yr Aiphtiaid Iehofah yn y dydd hwnnw,
A gwasanaethant Ef âg aberth ac offrwm,
Ac addunant adduned i Iehofah, ac a’i talant.
22Ac e dery Iehofah yr Aipht, gan daraw ac iachâu,
A hwythau a droant at Iehofah, ac Efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachâ hwynt.
23Yn y dydd hwnnw y bydd prif-ffordd o’r Aipht i Assyria,
Ac yr aiff yr Assyriad i’r Aipht, a’r Aiphtiad i Assyria,
A’r Aiphtiaid gyda ’r Assyriaid a wasanaethant.
24Yn y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd
Gyda’r Aipht, a chydag Assyria,
Yn fendith ynghanol y tir,
25Yr hwn a fendithia Iehofah gan ddywedyd,
Bendigedig Fy mhobl, yr Aipht,
A gwaith Fy nwylaw, Assyria,
A’m hetifeddiaeth, Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.