Iöb 36 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXVI.

1A chwanegodd Elihw a dywedodd,

2Disgwyl wrthyf ychydig a llefaraf wrthyt,

Canys etto o blaid Duw (y mae gennyf) ymadroddion;

3 Cymmeraf fy ngwybodaeth o hirbell,

Ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder;

4Canys, yn wir, nid celwydd (fydd) fy ymadroddion,

Un difefl ei wybodaeth (sydd) gyda thi.

5Wele, Duw, cadarn (yw), ac ni ddirmyga,

Cadarn yngrym deall;

6Nid achub bywyd yr annuwiol y mae Efe,

Ond iawnder y rhai addfwyn a rydd Efe;

7Ni thỳn Efe Ei lygaid oddi ar y cyfiawn,

Ond gyda brenhinoedd ar yr orseddfaingc

Y gesyd Efe hwynt beunydd, a dyrchefir hwy:

8Ond os wedi eu rhwymo mewn cadwyni

Y dèlir hwy â rhaffau cystudd,

9Ac y dengys Efe iddynt eu gweithredoedd

A’u camweddau, am ymfawrygu o honynt,

10Ac yr egyr Efe eu clustiau am gerydd,

Ac y dywaid am ddychwel o honynt oddiwrth annuwioldeb;

11Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu (Ef),

Diweddir eu dyddiau mewn daioni,

A’u blynyddoedd mewn hyfrydwch:

12Ond os na wrandawant, trwy’r ddiffyg gwybodaeth;

13A’r rhai annuwiol o galon a drysorant ddig,

Ni wnant waeddu o herwydd iddo Ef eu rhwymo;

14Trengu mewn ieuengtid a wna eu henaid hwynt,

Am fod digofaint, â helaethrwydd nac annoged,

A’r na ŵyred, mawr bridwerth di:

19A rydd Efe fri ar dy gyfoeth? — Na (wna) ar aur,

Ac ar holl nerthoedd golud.

20Na ddyheua am y nos,

Yr hon sydd i ddwyn ymaith bobloedd o’u lle:

21Gwylia na thröi at annuwioldeb,

Canys hynny a ddewisaist rhagor goddefgarwch.

22Welo, Duw sydd ddyrchafedig yn Ei nerth,

Pwy, fel Efe, (sydd) feistr?

23Pwy a bennododd iddo Ef Ei ffordd,

A phwy a ddywedodd wrtho “Gwnaethost ddrygioni?”

24 Cofia fawrhâu Ei weithred Ef

Yr hon a ddadganodd dynion:

25Daearolion oll sy’n tremio arni hi,

Dyn a’i gwêl hi o hirbell.

26Wele, Duw sydd ddyrchafedig hyd na wyddom ni;

Nifer Ei flynyddoedd Ef, nid (oes ei) chwilio allan:

27 Canys fe attŷn Efe ddefnynnau ’r dyfroedd,

Hwythau a dywalltant wlaw, Ei darth Ef,

28Yr hwn y mae ’r cymmylau yn ei ddiferu,

(Ac) yn ei ddihidlo ar ddaearolion lawer.

29Ac etto, a ddeall dyn holltiadau ’r cymmylau,

(A) thyrfau Ei babell Ef?

30Wele, Efe a daena arno Ei hun Ei oleuni,

Ac â gwraidd y môr a ymorchuddia;

31Canys â hwynt, y barn Efe ’r bobloedd,

Y rhydd Efe fwyd yn ehelaeth;

32Ei ddwylaw Efe a orchuddia â thân;

Ac a rydd iddo orchymyn yn erbyn y gelyn;

33Mynegu am dano Ef a wna Ei dwrf,

(A)’r ddiadell yn ddïau am y dyfodiad i fynu;

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help