1Yspryd Iehofah (sydd) arnaf,
Canys enneiniodd Iehofah fyfi;
I bregethu i’r rhai llariaidd yr anfonodd Efe fi,
I rwymo y rhai drylliedig eu calon,
I gyhoeddi i’r caethion ryddid,
Ac i’r rhai mewn rhwymau lawn-ollyngdod;
2I gyhoeddi blwyddyn foddhâol gan Iehofah,
A dydd dïal ein Duw ni;
I gysuro yr holl rai galarus;
3I beri (llawenydd) i alarwŷr Tsïon,
I roddi iddynt goron hardd yn lle lludw,
Olew llawenydd yn lle galar,
Gwisg moliant yn lle yspryd llesg,
Fel y gelwid hwynt yn Dderw cyfiawnder,
Yn Blanhigyn Iehofah, fel y prydferther Ef.
4Ac fe adeilada (dy eppil) yr anialoedd gynt,
Anghyfanneddleoedd y cynfyd, hwy a’u cyfodant,
Ac adnewyddant ddinasoedd diffaeth,
Anghyfanneddfaoedd oes ac oes.
5Sefyll a wna dieithriaid a phorthi eich praidd,
A meibion y dieithr (a fyddant) eich arddwŷr a’ch gwinllanwŷr:
6Ond chwychwi, “Offeiriaid Iehofah” y’ch gelwir chwi;
“Gweinidogion ein Duw ni,” meddir wrthych:
Golud y cenhedloedd a fwyttêwch,
Ac yn eu gogoniant yr ymglodforwch.
7Yn lle eich cywilydd (y cewch feddiant) dau ddyblyg;
Ac (yn lle) gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan;
Gan hynny yn eu gwlad (meddiant) dau ddyblyg a gânt feddiannu,
Llawenydd tragywyddol a fydd iddynt.
8Canys Myfi (wyf) Iehofah, yn hoffi barn,
Yn casâu trais ac anghyfiawnder;
A rhoddaf iddynt eu gweithredoedd mewn gwirionedd,
A chyfammod tragywyddol a wnaf Fi â hwynt.
9Ac fe adweinir 『2eu hâd hwynt』 『1ym mysg y cenhedloedd,』
A’u heppil ynghanol y bobloedd;
Yr holl rai a’u gwelont a’u hadwaenant,
Mai hwynt hwy (sydd) hâd a fendithiodd Iehofah.
10Gan lawenychu y llawenychaf yn Iehofah,
Gorfoleddu a wna fy enaid yn fy Nuw,
Canys gwisgodd fi â dillad iachawdwriaeth,
 mantell cyfiawnder y gorchuddiodd Efe fi;
Fel y mae priod-fab yn ymharddu fel offeiriad â choron,
Ac fel y mae priod-ferch yn ymaddurno â ’i thlysau.
11Yn ddïau megis y mae ’r ddaear yn bwrw allan ei hegin,
Ac fel y mae gardd yn peri i’w hadau egino,
Felly yr Arglwydd Iehofah a bair eginad cyfiawnder
A moliant, ger bron yr holl genhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.