1Ac arwydd mawr a welwyd yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad tan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren;
2ac yn feichiog; a gwaeddi y mae mewn gwewyr, ac mewn poen i esgor.
3A gwelwyd arwydd arall yn y nef, ac wele ddraig goch fawr, a chanddi saith pen a deg corn, ac ar ei phennau saith meitr;
4a’i chynffon sy’n tynu traian ser y nef, a bwriodd hwynt i’r ddaear. A’r ddraig a safodd ger bron y wraig ar fedr esgor, fel, pan esgorai, ei phlentyn y bwyttai.
5Ac esgorodd hi ar fab, gwrryw, yr hwn sydd ar fedr bugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haiarn. A chipiwyd ei phlentyn at Dduw ac at Ei orsedd-faingc;
6a’r wraig a ffodd i’r anialwch, lle y mae ganddi yno le a barottowyd oddiwrth Dduw, fel yno y porthent hi fil a deucant a thrugain o ddyddiau.
7A digwyddodd rhyfel yn y nef; Michael a’i angylion a aethant i ryfela â’r ddraig; a’r ddraig a ryfelodd, ac ei hangylion;
8ac ni orfuant, a’u lle ni chafwyd mwyach yn y nef.
9A bwriwyd y ddraig fawr i lawr, yr hen sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hon sy’n arwain ar gyfeiliorn y byd oll; bwriwyd hi i’r ddaear; ac ei hangylion, ynghyda hi, a fwriwyd.
10A chlywais lais mawr yn y nef, yn dywedyd, Yn awr y daeth yr iachawdwriaeth a’r gallu a theyrnas ein Duw, ac awdurdod Ei Grist, canys bwriwyd i’r llawr gyhuddwr ein brodyr, yr hwn sydd yn eu cyhuddo ger bron ein Duw ddydd a nos;
11a hwy a orchfygasant ef o herwydd yr Oen, ac o herwydd gair eu tystiolaeth; ac ni charasant eu heinioes hyd angau.
12O herwydd hyn ymhyfrydwch, y nefoedd a’r rhai sy’n trigo ynddynt hwy. Gwae’r ddaear a’r môr, canys disgynodd diafol attoch; a chanddo lid mawr, gan wybod mai ychydig amser sydd ganddo.
13A phan welodd y ddraig y bwriwyd hi i’r ddaear, erlidiodd y wraig a esgorodd ar y gwrryw,
14a rhoddwyd i’r wraig ddwy aden yr eryr mawr, fel yr ehedai i’r anialwch, i’w lle, lle y porthir hi yno am amser ac amseroedd a hanner amser, oddiwrth wyneb y sarph.
15A bwriodd y sarph o’i safn, ar ol y wraig, ddwfr fel afon, fel y gwnai iddi ei dwyn gan yr afon.
16A chymmorth a roes y ddaear i’r wraig; ac agorodd y ddaear ei genau, a llyngcodd yr afon yr hon a fwriodd y ddraig o’i safn.
17A llidodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i wneuthur rhyfel â’r lleill o’i had hi, y rhai sy’n cadw gorchymynion Duw ac yn dal tystiolaeth Iesu; a safodd ar dywed y môr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.