S. Marc 13 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac wrth fyned o Hono allan o’r deml, dywedodd un o’i ddisgyblion Wrtho, Athraw, wele, pa ryw feini, a pha ryw adeiladau sydd yma.

2A’r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma, er dim, faen ar faen, yr hwn ni ddattodir.

3Ac wrth eistedd o Hono ar fynydd yr Olewydd cyferbyn â’r deml, gofynodd Petr ac Iago ac Ioan ac Andreas Iddo o’r neilldu,

4Dywaid wrthym pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha beth fydd yr arwydd pan fydd y pethau hyn ar fedr eu cyflawni.

5A’r Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Edrychwch na fo i neb eich arwain chwi ar gyfeiliorn.

6Llawer a ddeuant yn Fy enw I, gan ddywedyd, Myfi yw Efe; a llaweroedd a arweiniant hwy ar gyfeiliorn.

7A phan glywoch am ryfeloedd, a son am ryfeloedd, na chyffroer chwi: y mae rhaid iddynt ddigwydd; eithr nid etto y mae’r diwedd;

8canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfaau mewn mannau: bydd newynau: dechreuad gwewyr yw y pethau hyn.

9Ond edrychwch chwi attoch eich hunain, canys traddodant chwi i’r cynghorau; ac yn y sunagogau y’ch baeddir; a cher bron rhaglawiaid a brenhinoedd y sefwch o’m hachos I, yn dystiolaeth iddynt.

10Ac i’r holl genhedloedd y mae rhaid yn gyntaf i’r Efengyl gael ei phregethu.

11A phan ddygant chwi, gan eich traddodi, na rag-bryderwch pa beth a lefaroch; eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hyny llefarwch, canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr yr Yspryd Glân.

12A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a pharant eu marwolaethu;

13a byddwch gâs gan bawb o achos Fy enw I; ond y neb a barhao hyd y diwedd, hwnw fydd gadwedig.

14A phan weloch “ffieidd-dra yr anghyfanedd-dra” yn sefyll lle na ddylai (y neb sy’n darllen, dealled), yna bydded i’r rhai sydd yn Iwdea, ffoi i’r mynyddoedd;

15a’r hwn ar ben y tŷ, na ddisgyned, ac nac aed i gymmeryd dim o’i dŷ;

16a’r hwn yn y maes, na throed yn ei ol i gymmeryd ei gochl;

17a gwae y rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny;

18a gweddïwch na ddigwyddo yn y gauaf; canys bydd y dyddiau hyny yn orthrymder,

19y fath na fu’r cyfryw o ddechreu y greadigaeth a greodd Duw, hyd yn hyn,

20ac na fydd ddim: ac oddieithr i’r Arglwydd dalfyru’r dyddiau, ni chadwesid un cnawd; eithr o achos yr etholedigion a etholodd, talfyrodd y dyddiau.

21Ac yr amser hwnw, os wrthych chwi y dywaid neb, Wele, llyma y Crist,

22neu, Wele, accw, na chredwch, canys cyfyd gau-gristiau a gau-brophwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau, i arwain ar gyfeiliorn, o bai bosibl, yr etholedigion;

23ond chwychwi, edrychwch; wele, rhagddywedais i chwi bob peth.

24Eithr yn y dyddiau hyny, wedi’r gorthrymder hwnw, yr haul a dywyllir,

25a’r lloer ni rydd ei goleuni, a’r sêr fyddant yn syrthio o’r nef; a’r nerthoedd y sydd yn y nefoedd a siglir;

26ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cymmylau, ynghyda gallu mawr a gogoniant;

27ac yna y denfyn Efe yr angylion, ac a gydgasgl Atto Ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.

28Ond oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan fo ei gangen ef wedi myned yn dyner, ac yn rhoddi allan ei ddail, gwyddoch mai agos yw’r haf;

29felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch mai agos yw, wrth y drysau.

30Yn wir y dywedaf wrthych, Nid aiff y genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni bydd i’r pethau hyn oll ddigwydd.

31Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond y geiriau mau Fi nid ant heibio ddim.

32Ond am y y dydd hwnw, neu yr awr, nid oes neb a ŵyr, nac yr angylion yn y nef, nac y Mab, na neb oddieithr y Tad.

33Edrychwch, gwyliwch, a gweddïwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.

34Fel gŵr yn ymdaith mewn gwlad ddieithr, wedi gadael ei dŷ, a rhoddi i’w weision awdurdod, i bob un ei waith, ac i’r drysawr y gorchymynodd wylied.

35Gwyliwch, gan hyny, canys ni wyddoch pa bryd y mae arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai hanner nos, neu ar ganiad y ceiliog, neu’r boreuddydd;

36rhag wrth ddyfod o hono yn ddisymmwth, y caffo chwi yn cysgu.

37A’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych chwi, wrth bawb yr wyf yn ei ddywedyd, “Gwyliwch.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help