Iöb 30 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXX.

1Ond yn awr chwerthin ar fy mhen y mae

Y rhai llai o ddyddiau na myfi,

Y rhai y diystyraswn i eu tadau

I’w gosod gyda chŵn fy nefaid;

2 Hyd yn oed cryfder eu dwylaw, o ba werth (y buasai efe) i mi?

Ynddynt y darfu am berffeithrwydd;

3Gan angen a newyn yn deneuon,

Yn cnoi (rhoddion) yr anialwch,

— Er ys hir yn ddiffaeth a diffaethiedig —

4Yn tynnu yr hoccys yn y prysglwyni,

A gwreiddyn y banadl yn fara iddynt;

5O fysg (dynion) y gyrrwyd hwynt ymaith,

Gwaeddi ar eu hol a wnai dyn fel (ar ol) lleidr,

6Fel y byddai iddynt drigo yn nychrynfa ’r nentydd,

Yn nhyllau ’r ddaear a’r creigiau;

7Ym mhlith y prysglwyni y rhuant hwy,

Tan ddanadl yr ymgasglant;

8Meibion yr annuwiol, meibion difenwawl,

Curwyd hwynt allan o’r tir:

9Ond yn awr eu cân hwynt a aethum i,

Ac yr wyf iddynt hwy yn destun;

10Fy ffieiddio y maent, pellhânt oddi wrthyf,

Ac yn fy ngwydd nid arbedant boeri;

11Ond ei rwym a ddattododd (pob un), ac a’m darostyngodd,

A’r ffrwyn yn fy ngwydd a ollyngasant hwy:

12 Ar y llaw ddehau y nŷthlwyth a gwyd,

Fy nhraed y maent yn eu gwthio,

Ac yn sarnu i’m herbyn eu ffyrdd dinystriol,

13Rhwygo i fynu fy llwybr y maent,

Fy ninystr y maent yn ei helpu,

— (Dynion) heb gynnorthwywr iddynt;

14Fel mur-rwygiad llydan y deuant arnaf,

Gyda thwrf y maent yn ymdreiglo ym mlaen;

15Tröwyd arnaf ddychryniadau,

Fel ped fai gwŷnt sy’n erlidio fy ardderchowgrwydd,

Ac fel cwmmwl yr aeth fy iachawdwriaeth heibio.

16Yn awr hefyd arnaf yr ymdywallt fy enaid,

Arnaf yr ymaflodd dyddiau cystudd;

17 Y nos sy’n tyllu fy esgyrn oddi wrthyf,

A’m cnöwŷr ni orphwysant:

18 Trwy ’r Mawr Ei Nerth ymnewidiodd fy ngwisg,

Fel fy mhais yr amgylcha hi fi;

19Taflodd Efe fi yn y clai,

A chyffelyb wyf i lwch a lludw;

20Llefain yr wyf arnat Ti — ond ni ’m gwrandewi,

Sefyll yr wyf — ac fy ystyried yr wyt Ti;

21Trôaist yn greulon tuag attaf,

Yn nerth Dy law cynllwynaist am danaf;

22 Fy nghodi ar y gwŷnt yr wyt, yn peri i mi farchogaeth (arno),

Ac yn peri i mi ymdoddi ar dwrf y dymhestl,

23Canys gwybod yr wyf mai i farwolaeth y’m dygi,

Ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw;

24Ond, mewn adfail, onid estyn dyn (ei) law,

Onid, yn ei drychineb, y bydd iddo lefain am gymmorth?

25 Oni wylais i dros y caled ei amser,

(Oni) ofidiodd fy enaid dros y cystuddiedig?

26Eithr am ddaioni y gobeithiais i, ond fe ddaeth drwg,

A disgwyliais am oleuni, ond fe ddaeth tywyllwch;

27Fy ymysgaroedd ŷnt yn berwi ac ni orphwysant,

Disymmwth-ruthrodd dyddiau fy nghystudd arnaf;

28Yn ddu yr wyf yn rhodio, ond nid gan yr huan,

Sefyll yn y gynnulleidfa yr wyf (ac) yn llefain am gymmorth;

29Aethum yn frawd i’r dreigiau,

Ac yn gymhar i gywion yr estrys;

30 Fy nghroen a dduodd oddi am danaf,

A’m hesgyrn a losgasant gan wres;

31 Gwel 21:12. Ac yn alaeth yr aeth fy nhelyn,

A’m symphon yn sain wylwŷr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help