Diarhebion 14 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XIV.

1Doethineb gwragedd a adeilada ei thŷ,

Ond ffolineb,—â ’i dwylaw ei hun y ’i distrywia.

2A rodio yn ei uniondeb sy’n ofni Iehofah,

Ond y gwyrawg ei ffordd a ’i dirmyga Ef.

3Yngenau ’r ffol (y mae) gwialen balchder,

Ond gwefusau ’r doethion a ’u ceidw hwynt.

4Heb ychen, y preseb (sydd) wag,

Ond amlder cnwd (sydd) trwy nerth yr eidion.

5Tyst ffyddlon ni chelwydda,

Ond anadlwr celwydd (yw) tyst gau.

6Cais gwatwarwr ddoethineb,—ond nid yw (i’w gael),

Ond gwybodaeth,—i’r pwyllog hawdd (yw).

7Dos ymaith oddi wrth wr ffol,

A phan nad adnapych wefusau gwybodaeth.

8Doethineb y call (yw) deall ei ffordd,

Ond ffolineb ynfydion (yw) twyll.

9Ffyliaid a watwar camwedd-offrwm,

Ond ymhlith yr uniawn (y mae) cymmeradwyaeth.

10Y galon a ŵyr ei chwerwder ei hun,

Ac â ’i llawenydd hi nid ymgymmysg dïeithr.

11Tŷ ’r annuwiolion a ddinystrir,

Ond pabell yr uniawn rai a flodeua.

12Y mae ffordd uniawn yngolwg gwr,

A ’i diwedd (yw) ffyrdd angau.

13Ac hefyd trwy chwerthin y gofidia ’r galon,

A diwedd y llawenydd hwnnw (sydd) dristwch.

14A’i ffyrdd ei hun y gorddigonir y gwrthgiliedig o galon,

Ac â’i weithredoedd ei hun (y gorddigonir) gwr da.

15Y gwirion a goelia bob gair,

Ond y call a ddeil ar ei gamrau.

16Y doeth a ofna ac a gilia oddi wrth ddrwg,

Ond yr ynfyd (sydd) ffrom a hyderus.

17Y cyflym i ddig a wna ffolineb,

Ond gwr meddylgar a gasêir.

18Gan yr ehud rai y mae ffolineb,

Ond y call a goronir â gwybodaeth.

19Gostyngir y drygionus rai ger bron y rhai da,

A ’r annuwiolion, ymhyrth y cyfiawn.

20Hyd yn oed gan ei gyfaill y casêir y tlawd,

Ond hoffwyr y cyfoethog (sydd) lawer.

21A ddirmygo ei gyfaill (sy)’n pechu,

Ond y graslawn i’r trueiniaid, gwyn ei fyd.

22Yn ddiau, cyfeiliorni y mae arddwyr drygioni,

Ond trugaredd a ffyddlondeb (yw) arddwyr daioni.

23Ymhob llafur y mae helaethrwydd,

Ond chwedl gwefusau, yn unig i eisiau (y daw).

24Coron y doethion (yw) eu cyfoeth,

Ond ffolineb yr ynfydion, ffolineb (yw).

25Gwaredwr eneidiau (yw) tyst ffyddlon,

Ond anadlwr celwyddau, twyll (yw).

26Yn ofn Iehofah (y mae) gobaith cadarn,

Ac i ’w blant ef y bydd noddfa.

27Ofn Iehofah (sydd) ffynnon bywyd,

I gilio rhag maglau angau.

28Yn amlder y bobl (y mae) urddas y brenhin,

Ond trwy ddiffyg y genedl (y mae) distryw ’r tywysog.

29Yr hwyrfrydig i ddig (sydd) helaeth o bwyll,

Ond y gwyllt o yspryd (sy)’n dyrchafu ffolineb.

30Bywyd y corph (yw) calon lariaidd,

Ond pydrni ’r esgyrn (yw) cynfigen.

31A orthrymmo ’r tlawd (sy)’n goganu ei Greawdydd,

Ond a ’i hanrhydeddo Ef (sydd) raslawn i ’r anghenus.

32Yn ei ddrygioni y gwthir ymaith yr annuwiol,

Ond ymddiriedus, yn ei farwolaeth, (yw)’r cyfiawn.

33Ynghalon y deallus y gorphwys doethineb,

Ond ymhlith yr ynfydion yr adwaenir hi.

34Cyfiawnder a ddyrchafa genedl,

Ond gwarth pobloedd (yw) pechod.

35Ewyllys da ’r brenhin (sydd) i ’w was synhwyrol,

Ond (gwrthddrych) ei ddig yw ’r gwaradwyddus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help