1I’r blaengeiniad. Ar y delyn. Awdl addysgiadol o eiddo Dafydd.
2Dywedodd yr ynfyd yn ei galon “Nid oes’r un Duw;”
Llygredig, ïe ffïaidd waith a wnaethant hwy,
Heb neb yn gwneud yr hyn sy dda.
3Iehofah, o ’r nefoedd, a edrychodd allan ar feibion dynion,
I weled a oedd neb pwyllog,
Neb a geisiai Dduw:—
4Pob un o honynt a giliasai yn ol, ynghŷd y troisant yn sur,
Nid oes a wnel y da,—nid oes hyd yn oed un.
5Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd?—
Bwyttawyr fy mhobl a fwyttasant fara,
Ar Dduw ni alwasant:
6Yna y dychrynasant â dychryn, (lle) nid oedd dychryn,
Canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd,
Gwaradwyddaist (hwynt) canys Duw a’u dirmygodd.
7Oh na roddasid, o Tsïon, waredigaeth Israel!
Pan ddychwelo Duw gaethiwed Ei bobl,
Y gorfoledda Iacob, y llawenhâ Israel!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.