1I’r blaengeiniad dros y Gittith. Psalm o eiddo Dafydd.
2O Iehofah, ein Harglwydd,
Mor adderchog (yw) Dy enw ar yr holl ddaear,
Yr Hwn y taenwyd Dy fawredd ar hŷd y nefoedd!
3O enau plant a llaeth-feibion y sefydlaist (i Ti) fawl
O achos Dy wrthwynebwyr,
I ostegu ’r gelyn a ’r ymddïalgar.
4Pan dremiwyf ar Dy nefoedd, gwaith Dy fysedd,
Y lloer a ’r ser y rhai a sedfydlaist,
5Pa beth (yw) dyn i Ti ei gofio,
A mab dyn i Ti ofalu am dano,
6I Ti ei ostwng ef ond ychydig rhagor Duw,
Ac â gogoniant a mawredd ei goroni ef,
7I Ti ei ddodi yn arglwydd ar weithredoedd Dy ddwylaw,
(A) gosod o Honot bob peth dan ei draed,
8Y ddïadell a’r ychen i gyd,
Ac hefyd bwystfilod y maes,
9Adar y nefoedd a physgod y môr,
(Ac) a dramwyo lwybrau ’r moroedd?
10O Iehofah, ein Harglwydd,
Mor ardderchong (yw) Dy enw ar yr holl ddaear!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.