1Yna yr attebodd Iöb, a dywedodd,
2Gwrandêwch, gan wrando, fy ymadrodd,
A bydded hynny eich cysuriadau;
3Dïoddefwch fi, a myfi a lefaraf,
Ac ar ol fy lleferydd gwatwar di.
4Am danaf fi, ai yn ol ffordd dyn (y mae) fy nghwyno?
Os (felly) pa ham na byddai f’yspryd yn ddïamyneddgar?
5Edrychwch arnaf, a synnwch,
A gosodwch law ar (eich) genau.
6Wrth gofio o honof, dychrynir fi,
Ac ymaflyd ar fy nghnawd (y mae) echrys;
7 Pa ham y mae ’r annuwiolion yn byw,
Yn heneiddio, hyd yn oed yn gryfion (eu) nerth?
8Eu hâd (sydd) safadwy ger eu bron, gyda hwynt
A’u hiliogaeth yn eu golwg;
9Eu tai (ydynt) heddwch, heb ofn,
Ac heb wialen Duw arnynt;
10Eu tarw sy’n cyflôi ac ni chyll ei hâd,
Bwrw llo yn esmwyth y mae ei fuwch ef ac nid erthyla;
11Danfonant allan eu rhai bychain fel dïadell,
A’u plant sy’n crychneidio;
12Derchafu (eu lleisiau) y maent gyda ’r dympan a’r delyn,
Llawenychu y maent i lais y symphon;
13Treuliant eu dyddiau mewn gwynfyd,
Ac mewn amrant i annwn y maent yn disgyn;
14A dywedyd y maent wrth Dduw, “Cilia oddi wrthym,
A gwybod Dy ffyrdd Di nid ŷm yn chwennych;
15Pa beth (yw) ’r Hollalluog fel y gwasanaethem Ef,
A pha fudd a gawn ni os ymbiliwn âg Ef?”
16 Wele, nid yn eu llaw hwynt (y mae) eu gwynfyd!
Cynghor yr annuwiolion sydd bell oddi wrthyf fi!
17Pa sawl gwaith y mae canwyll yr annuwiolion yn cael ei diffodd,
Ac y daw eu hanffawd arnynt,
— “Y mae Duw yn dirgel-gadw i’w feibion ei drallod ef” —
Taled Efe iddo ef ei hun, a bydded iddo ef gael gwybod,
20A gweled ei lygaid ef ei ddinystr,
Ac o angerdd yr Hollalluog yfed efe ei hun;
21 Ai i Dduw y dysg un wybodaeth?
Ac Efe — Efe sy’n barnu y rhai uchel.
23Y dyn yma sy’n marw ynghorph ei lwyddiant,
Yn hollol esmwyth arno, ac yn heddychol,
24Ei gelyrnau yn llawn o laeth,
A mer ei esgyrn yn ddyfredig:
25Ac arall sy’n marw âg enaid chwerwedig,
Ac heb gael o honaw brofi daioni:
26Ynghŷd yn y pridd y gorweddant hwy,
A’r pryf sydd yn gwrlid arnynt.
27Wele mi a wn eich meddyliau,
A’r tybiau i’m herbyn a ormesol-ffurfiasoch,
28Canys dywedwch “Pa le (y mae) tŷ y galluog,
A pha le pabell anneddau ’r annuwiolion?”
29— Oni ofynasoch chwi i dramwywŷr ffordd,
A’u cofnodau hwynt onid adwaenwch chwi?
30Y modd yn nydd dinystr yr arbedir y drygionus,
Yn y dydd y bydd llifeiriaint llid yn dylifo;
31 — Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb,
A’r (hyn) a wnaeth efe, pwy a’i tal iddo? —
32Ac efe i’w feddrod a rwysg-gludir,
Ac ar y garnedd y gwylia (dyn);
33 Melus iddo yw priddellau ’r dyffryn;
Ac ar ei ol ef y mae pob dyn yn ymlusgo,
Ac o’i flaen (ddynion) nad (oes) eu rhifo.
34Pa fodd gan hynny y cysurwch chwi fi âg oferedd?
A’ch attebion, ni weddillir ynddynt ddim ond bradwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.