S. Marc 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A daethant i’r tu hwnt i’r môr i wlad y Geraseniaid.

2Ac wedi myned o Hono allan o’r cwch, yn uniawn y cyfarfu ag Ef,

3o’r beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo, yr hwn oedd a’i drigfan yn y beddau; ac nid â chadwyn, ddim mwy,

4y gallai neb ei rwymo ef, gan y bu iddo yn fynych ei rwymo â llyffetheiriau a chadwynau, ac y rhwygwyd y cadwynau ganddo, a’r llyffetheiriau a ddrylliwyd, ac nid oedd neb yn gallu ei ddofi ef;

5ac o’r hyd, nos a dydd, yn y beddau ac ar y mynyddoedd yr oedd efe yn gwaeddi ac yn ei dorri ei hun â cherrig.

6Ac wedi gweled yr Iesu o hirbell,

7rhedodd ac ymochreiniodd Iddo, a chan waeddi â llef fawr, dywedodd, Pa beth sydd i mi a wnelwyf â Thi, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Tynghedaf Di, trwy Dduw, na phoenech mo honof fi;

8canys dywedasai wrtho, Tyred allan, yr yspryd aflan, o’r dyn.

9A gofynodd iddo, Pa beth yw dy enw di? A dywedodd yntau Wrtho, Lleng yw fy enw, canys llawer ydym.

10Ac ymbiliodd ag Ef yn ddirfawr, na yrrai mo honynt allan o’r wlad.

11Ac yr oedd yno ar y mynydd genfaint fawr o foch, yn pori.

12Ac ymbiliasant ag Ef, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel yr elom i mewn iddynt.

13A chaniattaodd Efe iddynt. Ac wedi dyfod allan, yr ysprydion aflan a aethant i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint i lawr y dibyn, i’r môr, ynghylch dwy fil o honynt, a thagwyd hwy yn y môr.

14A’r rhai a’u porthent a ffoisant ac a fynegasant y peth yn y ddinas ac yn y wlad; a daethant hwy i weled pa beth oedd yr hyn a ddigwyddasai.

15A daethant at yr Iesu, a gwelsant y cythreulig yn ei eistedd, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, yr hwn a fuasai â’r lleng ynddo; ac ofnasant.

16Ac wrthynt y mynegodd y rhai a welsent, pa fodd y digwyddasai i’r cythreulig, ac am y moch.

17A dechreuasant ymbil ag Ef i fyned ymaith o’u goror hwynt.

18Ac wrth fyned o Hono i’r cwch, ymbiliodd y gynt-gythreulig ag Ef am iddo fod gydag Ef;

19ond ni adawodd Efe iddo, eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ, at dy berthynasau, a mynega iddynt pa faint o bethau y bu i’r Arglwydd eu gwneuthur erot ti, a thrugarhau o Hono wrthyt.

20Ac aeth efe ymaith, a dechreuodd gyhoeddi yn Decapolis pa faint o bethau a wnaeth yr Iesu iddo; a phawb a ryfeddent.

21Ac wedi myned trosodd o’r Iesu yn y cwch, yn Ei ol, i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr Atto: ac yr oedd Efe wrth y môr.

22A daeth un o bennaethiaid y sunagog, a’i enw Iaïr, a phan welodd Ef, syrthiodd wrth Ei draed,

23ac ymbiliodd ag Ef lawer, gan ddywedyd, Fy merch fechan sydd ar drangc: attolwg i Ti ddyfod a dodi dy ddwylaw arni, fel yr iachaer hi a byw.

24Ac aeth Efe ymaith gydag ef; a chanlynai tyrfa fawr Ef, a gwasgent Ef.

25A gwraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,

26ac a ddioddefasai lawer gan lawer o feddygon, ac a dreuliasai yr oll oedd ar ei helw, ac heb ei llesau ddim, eithr yn waeth-waeth yr elsai,

27ac wedi clywed y pethau am yr Iesu, ac wedi myned yn y dyrfa o’r tu ol Iddo,

28cyffyrddodd a’i gochl Ef, canys dywedasai, Os cyffyrddaf ond â’i ddillad, iach fyddaf.

29Ac yn uniawn y sychodd ffynhonell ei gwaed, a gwybu hi yn ei chorph yr iachawyd hi o’r tarawiad.

30Ac yn uniawn yr Iesu wedi canfod Ynddo Ei Hun y gallu yn myned allan o Hono, wedi troi yn y dyrfa, a ddywedodd, pwy a gyffyrddodd â’m dillad I?

31A dywedodd ei ddisgyblion Wrtho, Gweli y dyrfa yn Dy wasgu Di, ac a ddywedi Di, Pwy a gyffyrddodd â Myfi?

32Ac edrychodd o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn;

33ac y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod yr hyn a ddigwyddasai iddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger Ei fron Ef, ac a ddywedodd Wrtho yr holl wirionedd.

34Ac Efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd di; dos mewn heddwch, a bydd iach o’th darawiad.

35Ac Efe etto yn llefaru, daeth o dŷ yr arch-sunagogydd rai yn dywedyd, Y mae dy ferch wedi marw; paham yr aflonyddi yr Athraw mwy?

36A’r Iesu, gan esgeuluso gwrando y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth yr arch-sunagogydd, Nac ofna, yn unig cred;

37ac ni adawodd i neb ganlyn ynghydag Ef oddieithr Petr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.

38A daethant i dŷ yr arch-sunagogydd, a gwelodd Efe gynnwrf, a rhai yn gwylo ac yn ochain lawer.

39Ac wedi myned i mewn, dywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac y gwylwch. Y plentyn ni fu farw, eithr cysgu y mae.

40A chwarddasant am Ei ben Ef. Ond Efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth gydag Ef dad y plentyn, ac ei mam, a’r rhai oedd gydag Ef, ac aeth i mewn lle’r oedd y plentyn;

41ac wedi ymaflyd yn llaw y plentyn, dywedodd wrthi, Talitha, cwmi, yr hwn yw, o’i gyfieithu, Yr eneth (wrthyt y dywedaf) cyfod.

42Ac yn uniawn, safodd yr eneth i fynu, a rhodiodd; canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. A synnasant yn uniawn â syndod mawr;

43a gorchymynodd Efe lawer na fyddai i neb wybod hyn; a rhoes air y rhoddid iddi beth i’w fwytta.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help